S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Samariaid yn hysbysebu llinell gymorth Gymraeg ar S4C

4 Chwefror 2021

Ym mis Chwefror eleni, mae Samariaid Cymru wedi lansio hysbyseb newydd ar S4C yn hyrwyddo eu llinell gymorth Gymraeg.

Mae llinell Gymraeg y Samariaid ar agor rhwng 7pm ac 11pm bob dydd ac mae'n rhad ac am ddim i'w ffonio.

Mae'r hysbyseb yn rhedeg drwy gydol mis Chwefror ac yn dilyn stori dyn ifanc o'r enw Damien.

Y llynedd, aeth iselder Damien mor ddifrifol fel bod yn rhaid iddo roi'r gorau i'w swydd a theimlodd na allai barhau gydag unrhyw beth.

Y bore hwnnw daeth ar draws rhif y Samariaid. Newidiodd yr alwad ffôn honno ei fywyd am byth ac mae'n parhau i deimlo'n falch ei fod wedi gwneud y cam a gofyn am help.

Dywedodd Sarah Stone, Cyfarwyddwr Gweithredol y Samariaid dros Gymru:

'Rydym yn falch iawn o fod yn hyrwyddo ein gwasanaeth llinell Gymraeg drwy S4C gyda'r hysbyseb hon.

"Nawr yn fwy nag erioed mae angen i ni gyrraedd y bobl sydd ein hangen yn y ffordd orau y gallwn.

"Mae'r stori hon yn dangos pa mor bwysig yw holi am gymorth, siarad am yr hyn sy'n eich poeni, ac y gall gwneud hyn wneud gwahaniaeth mawr.'

Gallwch gysylltu â llinell Gymraeg y Samariaid ar 0808 164 0123. Mae'r rhif yn rhad ac am ddim i'w ffonio ac mae'r llinell ar agor rhwng 7pm ac 11pm bob dydd.

Dywedodd Huw Potter, Rheolwr Hysbysebion ar gyfer S4C:

"Rydym yn falch y bydd y Samariaid yn hyrwyddo eu llinell Gymorth Gymraeg ar S4C.

"Mae'r gwasanaeth hwn yn eithriadol o bwysig a gwerthfawr i bobl Cymru, a bydd gallu siarad am eu problemau yn eu mamiaith naturiol yn gwneud gwahaniaeth enfawr.

"Dymunwn bob llwyddiant i'r Samariaid gyda'r cynllun arwyddocaol hwn."

Gellir gweld yr hysbyseb ar S4C drwy gydol mis Chwefror.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?