S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datganiad S4C - 8 Chwefror 2021

8 Chwefror 2021

Rydym yn derbyn fod y geiriad dan sylw ar wefan Cyw yn gwbl annerbyniol, ac yn ymddiheuro am unrhyw boen a niwed sydd wedi ei achosi yn sgil hyn.

Gallwn gadarnhau fod y geiriad wedi cael ei newid ar y wefan ac y byddwn yn cysylltu gyda'r llythyrwyr i ymddiheuro ac egluro yn llawn.

Ers rhai misoedd mae Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C wedi ei phenodi sy'n gweithio ar gynllun o waith hir-dymor fydd yn edrych ar ddiweddaru unrhyw ganllawiau, ffurflenni, a pholisïau er mwyn sicrhau eu bod mor gynhwysol â phosib – bydd hyn yn cynnwys prosesau adnoddau dynol mewnol S4C ac hefyd unrhyw ganllawiau neu gyfarwyddiadau sy'n cyd-fynd â'n rhaglenni.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?