S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Profiad personol Ryland Teifi o ddelio â galar yn ystod y pandemig

5 Mawrth 2021

Mae Ryland Teifi yn wyneb cyfarwydd i wylwyr Dechrau Canu, Dechrau Canmol fel aelod o dîm cyflwyno'r gyfres ond yr wythnos hon bydd Ryland yn rhannu profiad personol gyda'r gwylwyr o golli ei Dad, Garnon Davies i Covid-19.

Mewn cyfweliad arbennig bydd Ryland yn trafod yr alwad ffôn ysgytwol a gafodd gydag un o ddoctoriaid Ysbyty Glangwli yn dweud fod cyflwr ei dad yn dirywio a bod hi'n well iddo deithio o'i gartref yn Iwerddon i Gymru cyn gynted â phosib.

Ond yn anffodus, roedd yn rhy hwyr a thra fod Ryland yn teithio nôl i Gymru ar y llong tua awr o borthladd Abergwaun cafodd neges i ddweud fod ei Dad wedi marw.

"Dechreuodd pethe fis Tachwedd pan aeth Dad mewn i Ysbyty Llanymddyfri.

"Cafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Glangwili ac er ei fod yn sâl doedd dim bygythiad yw fywyd ar y pryd, ac yna o fewn tua pythefnos fe gafon ni alwad ffon i ddweud fod pethe'n dirywio." meddai Ryland

"Dwi di bod ar y llong na gymaint, yn mynd nol a mlan rhwng Cymru ac Iwerddon.

"Tua awr o'r porthladd, fe sylwais fod y golau yn fwy llachar na'r arfer dros y mor ac fe ges i'r teimlad ofnadw na mod i'n rhy hwyr. Fe ges i decst wrth Rósín, fy ngwraig yn dweud wrthai am ffonio ar ôl cyrraedd y porthladd, ac ro'n i'n gwybod bryd hynny ei fod wedi mynd."

Yn ogystal roedd chwaer Ryland hefyd yn Ysbyty Glangwili ar y pryd yn brwydro yn erbyn cancr, ac yn ôl Ryland roedd yn dipyn fwy anodd iddi hi mewn sawl ffordd gan ei bod hi o dan yr un to, ond methu mynd i weld ei thad.

"Mae'r ffaith fod Dad wedi bod heb deulu, hwnna yw'r peth anoddaf dwi'n credu sef bod Dad wedi bod ar ben ei hun ar y diwedd.

"Un o'r pethau anoddaf hefyd yw methu galaru gyda phobl eraill, methu cofleidio, ysgwyd llaw, rhannu straeon, chwerthin a llefen.

Meddai Lowri a Cifa, merched Ryland, oedd wedi methu mynd i'r angladd oherwydd y cyfyngiadau teithio, "Ro'n ni wedi recordio cân i chwarae yn angladd Tacu, a wedd e mor neis gwybod bod llais ni yn canu yn yr angladd.

"Ro'n ni jyst ishe bod yna a rhoi cwtch i mamgu."

Yn ystod y rhaglen hefyd bydd Ryland yn cwrdd â Delun Evans, Nyrs o Ysbyty Glangwili oedd yn gofalu am Garnon yn ystod ei oriau olaf.

"Roedden ni'n gwybod pa mor bwysig oedd cerddoriaeth i dy Dad," meddal Delun.

"Ro'n i'n gwybod ei fod yn gwrando hyd yn oed os nad oedd ymateb. Fe fues i'n chwarae Lili'r Nos, Mi Glywaf Dyner Lais, ac roedd Dros Gymru'n Gwlad newydd ddechre chwarae pan gymerodd ei anadl olaf."

"Ma hynna'n meddwl cymaint" meddai Ryland. Mae'r ffaith eich bod yn chwarae ei hoff ganeuon a'i fod yn gallu clywed fy llais i, yn rhoi cysur mawr.

"Allai wir ddim a diolch digon i'r holl nyrsys fu'n gofalu amdano."

Ac wrth adlewyrchu ar y sefyllfa anodd o ddelio â galar yn ystod y cyfnod clo, mae Ryland yn gobeithio y bydd cymunedau yn gallu dod ynghyd i alaru gyda'i gilydd unwaith eto, ac y bydd y cyfnod yma yn cael ei goffáu.

"Rhannu stori miloedd o bobl ydw i mewn gwirionedd." meddai Ryland

"Un peth sy'n gyrru ni mlaen yw'r gobaith y gallwn ddod at ein gilydd. Dwi eisiau gweld Mam, ac erbyn hyn mae'n chwaer i'n gwella. Dwi'n gwybod lle bynnag mae Dad bydde fe'n gweud – peidiwch becso am ddim byd, joiwch a canwch!"

Dechrau Canu Dechrau Canmol

Nos Sul 7 Mawrth, 7.30

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Rondo ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?