S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chwilio am gantorion Cymru sy’n breuddwydio am ganu gyda’u harwyr

21 Ebrill 2021

Mae'r rhaglen sy'n codi'r galon, Canu Gyda Fy Arwr, yn ôl am ail gyfres ac yn rhoi cyfle arall i unigolion neu, am y tro cyntaf eleni, grwpiau, gymryd rhan mewn profiad hollol unigryw o ganu gyda'i arwr cerddorol.

Roedd y gyfres gyntaf, a ddarlledwyd ar S4C ym mis Ionawr 2021, yn cynnwys Elin Fflur, Shân Cothi a Dafydd Iwan yn canu gyda phobl o wahanol gefndiroedd gyda rhai yn enwebu eu hunain ac eraill yn cael eu henwebu gan ffrindiau neu deulu, fel sypreis llwyr!

Roedd rhai o'r unigolion lwcus a gymerodd ran y tro diwethaf yn cynnwys gweithiwr y Gwasanaeth Iechyd, gofalwr Parc y Scarlets, disgybl chwech oed sydd wrth ei bodd yn canu, cymeriad lleol yn dathlu ei phen-blwydd yn 95 oed, cyn-ganwr oedd wedi colli ei hyder a llawer iawn mwy.

Mae'r tenor adnabyddus Rhys Meirion, sy'n cyflwyno'r rhaglen, nawr yn chwilio am freuddwydwyr newydd sydd wrth eu boddau â cherddoriaeth i gymryd rhan mewn deuawdau disglair ar gyfer y gyfres nesaf.

Ac eleni, nid dim ond unigolion sy'n gallu cael y cyfle unigryw yma. Mae modd i deulu, grŵp o ffrindiau, aelodau o'r un côr neu gymdeithas gymryd rhan!

Mae Rhys wedi gweld y potensial sydd gan y gyfres hon i newid bywydau.

"Dwi wedi bod yn ffodus i gael y cyfle i ganu gyda rhai o'm harwyr ar hyd fy ngyrfa – nid yn unig ar lwyfan ond ar y sgrin hefyd yn y gyfres Deuawdau Rhys Meirion. Mae profiadau fel hyn wir yn newid eich bywyd er gwell.

"Mae Cymru'n cael ei hadnabod fel gwlad y gân ac rydyn ni am ddod â mwy o'i chantorion cudd i'r awyr agored, arddangos eu talentau a'u cael i ganu gyda'u harwyr a'u harwresau cerddorol.

"Rydyn ni eisiau clywed gan gymaint o bobl â phosib i ddweud wrthym am eu gobeithion a'u breuddwydion cerddorol. Ac unwaith eto, does dim terfyn ar bwy all wneud cais. Rydyn ni'n chwilio am bobl o 10 i 110, a gall y rhaglen ymdrin ag unrhyw genre cerddoriaeth – o'r pop i'r clasurol, roc i reggae, jazz, gwerin, unrhyw beth!"

"Cymerwch y cyfle a gwnewch gais - mae gennych bopeth i ennill a dim i'w golli. Rydych chi wedi gweld y profiadau anhygoel a bythgofiadwy gafodd pobl yn y gyfres gyntaf – felly ewch amdani!"

Un o rhain oedd Catrin, Ffisiotherapydd yn Ysbyty Glan Clwyd a aeth i weithio yn yr Uned Gofal Dwys yn ystod cyfnod Covid-19. Mae Catrin o hyd wedi mwynhau perfformio ac roedd y profiad o ganu gyda'i harwres gerddorol, Elin Fflur, yn hwb mawr iddi:

"Roedd canu gydag Elin yn fythgofiadwy – ac roedd o'n arbennig i gael canu'r gân Enfys gan ei fod o'n berthnasol iawn ac yn dod o'r galon. Ac roedd gwneud hyn tu allan i'r ysbyty o flaen fy nheulu a ffrindiau yn anhygoel.

"Dwi'n sicr wedi cael mwy o hyder i ganu ar ôl gwneud y rhaglen. A hyd yn oed tu ôl i'r camera, roedd Elin yn hynod o gefnogol. Mae cael rhywun o'r safon yna sy'n hapus i ganu efo fi ac wedi mwynhau canu efo fi yn help mawr i'n hyder i."

A beth fyddai cyngor Catrin petai rhywun rhwng dau feddwl i wneud cais i fod ar y rhaglen?

"Yn sicr, gwnewch o! Mae'r profiad ti'n cael allan o'r rhaglen yn rhywbeth fase ti byth yn cael yn unman arall."

Un lwcus arall gafodd ei ddewis i gymryd rhan oedd Brynle Griffiths, Adeiladwr o Abergele, a ganodd gyda'i arwres o, Shân Cothi:

"I mi, roedd o'n rhywbeth reit bersonol. Oni isio magu bach o hyder yn ôl i ganu unawdau ac mi oedd o jyst y peth i roi cic yn fy mhen ôl i ac i gael codi ar fy nhraed a'i wneud o eto.

"Fyswn i'n cynghori unrhyw un i wneud yr un peth, i ganu efo'i arwr neu arwres. Mae'n rhywbeth i drysori am weddill dy oes. Dwi wedi cael y fraint a'r pleser o ganu efo un o sopranos gorau'r byd! Ges i amser wrth fy modd."

Roedd canu gyda Shân gyda'i deulu yn ei annog ymlaen yn brofiad arbennig iawn i Brynle:

"Roedd hi mor agos at rywun ac mor annwyl. A canu efo hi...da ni gyd wedi gweld hi ar y teledu a'i chlywed hi ar y radio, ond roedd sefyll ryw ddwy lath ohoni a'i chlywed hi'n canu efo'r llais mwya' bendigedig 'na... bois bach, roedd hwnnw'n arbennig iawn."

Felly os ydych chi'n breuddwydio am ganu gydag arwr neu arwres arbennig, neu eisiau enwebu ffrind, aelod o'r teulu neu grŵp sy'n haeddu'r profiad bythgofiadwy yma, mae angen cysylltu â chwmni cynhyrchu teledu Cwmni Da yng Nghaernarfon, erbyn dydd Mercher, Mehefin 30, 2021.

I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ac anfonwch glip fideo byr i Cwmni Da. Ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â canu@cwmnida.tv neu 07483904452.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?