S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datblygu Partneriaeth Rhwng S4C, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd

26 Mai 2021

Mae partneriaeth newydd wedi ei gyhoeddi heddiw rhwng S4C, Theatr Genedlaethol Cymru ac Eisteddfod yr Urdd i gydweithio ar gystadleuaeth Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod T.

Bydd S4C yn comisiynu a chreu ffilmiau o'r dramâu buddugol ar gyfer platfform Hansh.

Yn ddiweddar, mae S4C wedi cydweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru a'r Urdd ar gynllun Dramodwyr Ifanc. Mae mwy na 40 o ddarpar-ddramodwyr yn rhan o'r cynllun hwn ac maen nhw wedi mwynhau sgyrsiau a sesiynau hyfforddiant gyda dramodwyr a sgwennwyr profiadol, gan gynnwys sgwrs gyda Daf James, Bethan Marlow a Roger Williams wedi'i chadeirio gan Mali Ann Rees, i'w paratoi at gystadlu am Fedal Ddrama'r Urdd.

Bydd y Theatr Genedlaethol yn cyd-weithio ar y tri sgript buddugol er mwyn eu haddasu i ffilmiau byrion i'w dangos ar blatfform Hansh, gyda'r ffilmiau yn cael eu cynhyrchu gan gwmni TinInt.

Mae gwobr Y Fedal Ddrama yn un o brif seremonïau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ers blynyddoedd lawer, a gyda'r Eisteddfod yn cael ei chynnal yn ddigidol eleni eto o dan enw Eisteddfod T bydd Y Fedal Ddrama yn parhau i fod yn un o brif gystadlaethau'r wythnos ac yn cael ei chynnal yn fyw am 4.00 ar brynhawn Mercher 2 Mehefin.

Bydd y dramodydd sy'n dod i'r brig yn y gystadleuaeth Medal Ddrama hefyd yn treulio blwyddyn fel Dramodydd Preswyl Ifanc gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Dyma'r tro cyntaf i'r cwmni gynnig cyfle o'r fath i ddramodydd ifanc. Yn ogystal â mentora gan dîm Theatr Gen, bydd cyfle i'r Dramodydd Preswyl Ifanc gael ei fentora gan Gomisiynydd Drama S4C a gweithio gyda rhai o'u hawduron sgriptiau diweddaraf.

Meddai Guto Rhun, Comisiynydd Cynorthwyol Ar-lein S4C:

"Da ni'n falch iawn o allu comisiynu ffilmiau y Fedal Ddrama eleni a'u rhannu gyda chynulleidfa Hansh. Mae gallu gweithio mewn partneriaeth gyda Theatr Genedlaethol Cymru a'r Urdd yn werthfawr tu hwnt ac mae gallu datblygu talentau pobl ifanc a rhoi platfform i arddangos eu gwaith yn rhan o strategaeth ar-lein S4C. Mae themau a negeseuon y ffilmiau'n bwysig iawn a dwi'n siŵr bydd nifer o wylwyr hansh yn uniaethu â nhw."

Meddai Rhian A. Davies, Cynhyrchydd Gweithredol Theatr Genedlaethol Cymru:

"Roedd gweld mwy na 40 yn dod i'r sesiynau hyfforddi yn wych ac yn profi'r angen am gydweithio, i gefnogi datblygu dramodwyr ifanc Cymraeg, rhwng sefydliadau celfyddydol cenedlaethol yr Urdd, S4C a Theatr Gen. Bydd gweld ffrwyth llafur y tri ddaeth i'r brig ar Hansh yn benllanw cyffrous a theilwng i gystadleuaeth Medal Ddrama Eisteddfod T 2021. Mae Theatr Gen yn edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu'r enillydd i'n mysg, fel Dramodydd Preswyl Ifanc, ac i barhau i ddatblygu'r Cynllun Dramodwyr Ifanc a'r bartneriaeth gyda S4C a'r Urdd, yn 2022."

Dywedodd Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd:

"Rydyn ni'n falch iawn o'r bartneriaeth yma gyda'r Theatr Genedlaethol a S4C. Mae'n gynllun fydd yn rhoi llwyfan i dalent ifanc ar blatfform Hansh S4C, ond fydd hefyd yn rhoi cyfle gwych i'r dramodydd buddugol fanteisio ar gefnogaeth a hyfforddiant gan y Theatr a S4C. Rydw'i yn hyderus y bydd partneriaeth fel hyn yn rhoi hwb ac ysbrydoliaeth i gannoedd o bobl ifanc sy'n tyfu drwy rengoedd yr Urdd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?