S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch uchafbwyntiau taith y Llewod i Dde Affrica ar S4C

30 Mehefin 2021

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau holl gemau Llewod Prydain ac Iwerddon ar eu taith i Dde Affrica.

Bydd y Llewod yn chwarae wyth gêm yn ystod mis Gorffennaf ac Awst, gan gynnwys tair gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd, y Springboks.

Bydd uchafbwyntiau estynedig o bob gêm i'w gweld ar S4C, am 10.30yh ar ddiwrnod pob gêm.

Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno'r rhaglenni, gyda Sarra Elgan yn dod â'r holl newyddion diweddaraf o dde Affrica.

Bydd Gareth Charles yn cael cwmni Gwyn Jones a Sioned Harries yn y blwch sylwebu, tra bydd Shane Williams, Jamie Roberts, Bryan Habana, Mike Phillips, Elinor Snowsill a Nigel Owens ymysg y wynebau cyfarwydd fydd yn dadansoddi'r gemau.

Meddai Lauren Jenkins: "Mae pob taith y Llewod yn arbennig ond mae'r ffaith eu bod nhw'n herio pencampwyr presennol y byd, De Affrica, yn ychwanegu dimensiwn arall i'r daith hon.

"Mae'r Springboks yn cael eu hadnabod fel tîm gwbl gorfforol a digyfaddawd, ac mi fyddan nhw'n benderfynol o amddiffyn eu record falch ar domen eu hunain.

"Mi fyddwn ni'n cadw golwg agos iawn ar y Cymry sydd yn y tîm, a rydyn ni'n edrych ymlaen i cael eich cwmni."

Bydd y gyfres yn cychwyn ar nos Sadwrn 3 Gorffennaf am 10.30yh, gydag uchafbwyntiau o gêm agoriadol y daith, yn erbyn yr Emirates Lions.

Dilynwch @S4Cchwaraeon ar Twitter, Facebook ac Instagram ar gyfer y newyddion diweddaraf o'r daith.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?