S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chwaer Fach Chwaer Fawr ar restr fer y Griersons

20 Medi 2021

Mae rhaglen ddogfen DRYCH: Chwaer Fach, Chwaer Fawr wedi cael ei henwebu am wobr Grierson.

Mae gwobrau Grierson yn cydnabod a dathlu y rhaglenni dogfen gorau ar draws y Deyrnas Unedig a thu hwnt sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'r genre.

Cafodd DRYCH: Chwaer Fach, Chwaer Fawr ei chynhyrchu fel rhan o'r gyfres S4C DRYCH gan y wneuthurwraig ffilmiau Nia Dryhurst o Gaernarfon a'i chwmni cynhyrchu Dogma.

Wrth wraidd y ffilm bersonol ac emosiynol yma mae'r perthynas anodd rhwng Nia a'i chwaer Llinos. Dyw'r ddwy - yr un yn gyn lleian a'r llall yn gyn sowldiwr - ddim yn dod ymlaen.

Ond pan gafodd Llinos ddamwain ddifrifol a thorri ei gwddw, Nia oedd y person cyntaf iddi ffonio o'i gwely o ysbyty arbenigol Stoke-on-Trent. Roedd Nia yn gweld y ddamwain fel cyfle i geisio gwella ei pherthynas gyda'i chwaer fach; trwy sesiynau therapi, thrwy gyffes y camera a thrwy ffilmio'r cyfan.

Meddai Nia: "Dwi'n falch iawn o gael fy enwebu ar gyfer gwobr Grierson. Maent yn wobrau sy'n cael eu cydnabod fel Oscars y byd dogfen ac felly mae'n fraint o'r mwyaf cael rhoi llwyfan o'r fath i Chwaer Fach Chwaer Fawr. Mae'n rhoi cynyrchiadau o Gymru ar y map ac yn dangos bod rhaglenni dogfen o'r safon uchaf yn cael eu creu yma yng Nghymru."

"Ond nid enwebiad i unigolyn yn unig yw hwn. Mae'n ganlyniad i waith tîm. Ni fyddai unrhyw beth yn bosib heb dalent greadigol y criw cynhyrchu a heb gefnogaeth fy nheulu a S4C. Mae'n bleser ac yn anrhydedd, felly, cael creu ffilmiau Cymraeg sy'n cael eu hystyried ymysg y goreuon".

Meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Rhaglenni Ffeithiol: "Mae cael enwebiad ar gyfer gwobr Grierson yn anrhydedd o'r mwya' ac yn profi y gallwn greu ffilmiau heriol yn Gymraeg sy'n gallu sefyll ochr yn ochr â ffilmiau dogfen gorau'r byd.

Mae Chwaer Fach, Chwaer Fawr yn ffilm hynod bersonol ac yn dangos dewrder a gonestrwydd rhyfeddol gan Llinos a Nia i rannu eu stori. Llongyfarchiadau mawr i Nia a'r tîm cynhyrchu i gyd."

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Llundain ar nos Fercher, 10 Tachwedd 2021.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?