S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Dechrau Canu Dechrau Canmol yn dathlu'r 60

22 Hydref 2021

Mae un o gyfresi mwyaf eiconig a hirhoedlog S4C yn dathlu pen-blwydd arbennig eleni.

Darlledwyd Dechrau Canu Dechrau Canmol am y tro cyntaf ym mis Ionawr 1961.

Ers hynny, mae cast lliwgar o arweinyddion, cyfranwyr a chyflwynwyr wedi llenwi'r sgrin.

Ac wrth i'r gyfres ddathlu chwe degawd o gyd ganu a chyd foli, bydd rhaglen arbennig ar S4C nos Sul 24 Hydref am 7.00 yn edrych yn ôl ar apêl y gyfres.

"Mae hon yn garreg filltir bwysig i gyfres sydd wedi bod ar dipyn o siwrne.

"Does yr un rhaglen deledu Gymraeg arall wedi bod ar y sgrin gyhyd â Dechrau Canu Dechrau Canmol, a dim ond llond llaw o gyfresi all guro ein record drwy Brydain gyfan. "meddai Nia Roberts sy'n cyflwyno'r gyfres.

O gapel Trinity yn Sgeti, Abertawe daeth y rhaglen gyntaf un, ac ers hynny mae'r gyfres wedi teithio i bob cwr o Gymru.

"Roedd yn rhywbeth hollol newydd ar y bryd i fynd a chamerâu i mewn i gapeli. meddai R Alun Evans, Cyflwynydd, Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr y gyfres rhwng 1962 a 1969.

"Ro'n i yn weinidog yn Llandysul yn 1961 a dyna lle welais i Dechrau Canu am y tro cynta' a rhyfeddu at ansawdd y canu.

"Roedd gen i ychydig o brofiad mewn darlledu ac fe wnes i ddechrau cyflwyno oedd yn deimlad cynhyrfus tu hwnt.

"Fe lwyddodd Dechrau Canu Dechrau Canmol i ysbrydoli rhaglen Saesneg Song of Praise. Roedd e'n fformat oedd yn gweithio, ac roedd y ffigurau yn profi hynny."

Bydd llu o gyfranwyr yn edrych yn ôl gyda gwen yn trafod y ffasiwn, yr hwyl, yr oglau sent ac angerdd y canu mawl wrth gofio cyfres sydd wedi cyffwrdd calonnau miloedd o Gymry.

Llwyddodd y gyfres hefyd i roi llwyfan i nifer o sêr ifanc gan gynnwys y canwr adnabyddus o Fôn Aled Jones, ac o Eglyws y Plwy, Biwmares y clywyd llais Aled ar deledu am y tro cyntaf.

"O'n i'n unarddeg neu deuddeg ac adre yn Llandegfan pan ddoth yr alwad a dwi erioed di gweld Mam mor ecseited.

"Iddyn nhw, roedd e'r peth gorau fyddai'n gallu digwydd erioed! Hon oedd y rhaglen deledu fawr gyntaf i fi wneud, ac ro'n i'n ymwybodol bod pawb yng Nghymru yn gwylio.

"Ro'n i mor nerfys! Dwi'n sicr ddim yn meddwl y byddwn i wedi cyflwyno Songs of Praise heb fy nghysylltiad gyda Dechrau Canu Dechrau Canmol" meddai Aled Jones.

Un arall fu'n cyflwyno Dechrau Canu Dechrau Canmol am bron i ddegawd rhwng 1998 a 2006 yw'r darlledwr profiadol Huw Llywelyn Davies.

"Pan ges i gynnig cyflwyno'r gyfres fe ges i sioc, a dwi'n meddwl bod pobl eraill wedi cael hyd yn oed mwy o sioc!" Meddai Huw Llywelyn Davies.

"Ond roedd hi'n fraint aruthrol. Roedd hi'n bwysig i mi mai nid jyst cyflwynydd yn sefyll mewn capel oedd i'w weld yn ystod y rhaglen ond bod yr elfen sgyrsiol yn bwysig. Rhaglen y bobl yw hi wrth gwrs."

"Mae'n gyfres sydd wedi aros yn boblogaidd ar hyd y blynyddoedd. Mae hynny'n synnu llawer – wrth feddwl bod rhaglen draddodiadol am ganu emynau wedi bod mor boblogaidd.

"Un o'r rhesymau dwi'n credu yw bod hi wedi apelio at y di-gymraeg, a'r elfen o nostalgia yn bwysig iawn hefyd."

Fel rhan o'r dathliadau fe lansiodd y gyfres bôl piniwn Emyn i Gymru nôl yn yr haf er mwyn darganfod beth yw Emyn mwyaf poblogaidd Cymru yn 2021.

Ar nos Sul 31 Hydref am 7.00 yr hwyr ar S4C bydd rhaglen arbennig yng nghwmni Huw Edwards o Neuadd Dewi Sant Caerdydd.

Bydd y deg uchaf yn cael eu datgelu a'u perfformio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC o dan arweiniad Owain Arwel Hughes a chôr arbennig o 60 o gantorion o bob cwr o Gymru.

"Mae aros ar yr awyr am 60 o flynyddoedd yn dipyn o gamp i unrhyw raglen." meddai Nia Roberts.

"Yr hyn sy'n drawiadol i mi yw balchder y bobl sydd wedi ymwneud â'r gyfres ar hyd y degawdau a chariad y gynulleidfa tuag ati."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?