S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Rygbi byw o Gwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR ar S4C

1 Rhagfyr 2021

Bydd S4C yn dangos gemau byw o Gwpan Pencampwyr Heineken a Chwpan Her Ewrop EPCR y tymor hwn.

Bydd dwy gêm byw o Gwpan Pencampwyr Heineken i'w gweld ar S4C, yn ogystal â phob un o pedair gêm y Dreigiau yn y Cwpan Her.

Bydd S4C yn dangos gêm agoriadol y Dreigiau, oddi cartref yn erbyn Perpignan, yn fyw am 5.30yh ar nos Sadwrn 11 Rhagfyr, cyn y gêm o'r ail rownd rhwng Dreigiau a Lyon, ar nos Wener 17 Rhagfyr am 8.00yh, yn fyw o Rodney Parade.

Yn y drydedd rownd, bydd y gêm yng Nghwpan y Pencampwyr rhwng Caerdydd a phencampwyr Lloegr, Harlequins, yn cael ei ddangos yn fyw ar nos Wener 14 Ionawr am 8.00yh, yn ogystal â'r gêm Cwpan Her rhwng Benetton a Dreigiau ar ddydd Sadwrn 15 Ionawr am 3.15yh.

Y gêm yng Nghwpan y Pencampwyr rhwng Scarlets a Bryste, ar nos Sadwrn 22 Ionawr am 5.30yh, fydd i'w gweld yn rownd pedwar.

Ac mi fydd gêm grŵp olaf y Dreigiau, gartref yn erbyn Caerloyw, yn cael ei ddarlledu'n fyw ar S4C ar benwythnos Ebrill 8/9/10.

Bydd Rhys ap Wiliam yn arwain y tîm cyflwyno ar gyfer y gemau, gyda Lauren Jenkins yn ohebydd a Gareth Roberts a Gwyn Jones yn y blwch sylwebu.

Ymysg yr enwau sydd yn dadansoddi'r gemau bydd Sioned Harries, Shane Williams a Mike Phillips. Media Atom fydd yn cynhyrchu'r darllediadau ar ran S4C.

Gemau byw Cwpan y Pencampwyr Heineken a Chwpan Her EPCR ar S4C

Rownd 1

Nos Sadwrn 11 Rhagfyr - Cwpan Her – Perpignan v Dreigiau – 5.30yh

Rownd 2

Nos Wener 17 Rhagfyr – Cwpan Her – Dreigiau v Lyon – 8.00yh

Rownd 3

Nos Wener 14 Ionawr - Cwpan y Pencampwyr - Caerdydd v Harlequins – 8.00yh

Dydd Sadwrn 15 Ionawr – Cwpan Her – Benetton v Dreigiau – 3.15yh

Rownd 4

Nos Sadwrn 22 Ionawr - Cwpan y Pencampwyr – Scarlets v Bryste – 5.30yh

Rownd 5

Ebrill 8/9/10 – Cwpan Her - Dreigiau v Caerloyw – (Dyddiad ac amser i'w cadarnhau)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?