S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Beca Lyne-Pirkis yn ymuno â thîm FFIT Cymru

18 Ionawr 2022

Bydd FFIT Cymru yn croesawu arbenigwr bwyd newydd i'r tîm ar gyfer y gyfres newydd eleni - y cogydd adnabyddus, Beca Lyne-Pirkis.

Fe fydd Beca, sydd wedi cyflwyno cyfresi coginio ar S4C a chyrraedd rowndiau cyn-derfynol y gyfres The Great British Bake Off, yn ymuno â'r seicolegydd Dr Ioan Rees a'r hyfforddwr personol Rae Carpenter ar gyfer cyfres pump, sy'n cychwyn yn mis Ebrill.

Bydd Beca yn olynu Sioned Quirke, sydd wedi bod yn ddietegydd y gyfres ers pedair blynedd.

Wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn astudio maetheg ac yn hyfforddi gyda'r gwasanaeth iechyd, mi fydd Beca yn cymhwyso i fod yn ddietegydd fis Gorffennaf eleni.

Meddai Beca: "Fi methu aros i gychwyn. Fi wedi gwylio'r gyfres ers y cychwyn ac wedi nabod sawl un o'r cyn-Arweinwyr, a gweld yr effaith bositif mae'r gyfres wedi cael arnyn nhw.''

"Mae bwyd yn rhan hanfodol o be allai roi cyngor arno fe fel arbenigwr ond hefyd, dwi'n fam, dwi'n wraig, dwi'n gweithio, dwi'n berson sy'n caru ymarfer corff ac sy'n mwynhau hyfforddi ar gyfer sawl ras a sialensau gwahanol.''

"Da ni fel arbenigwyr yn rhannu ein profiadau personol ni i helpu dylanwadu a dangos y ffordd.

"Dwi'n fam brysur ac weithiau mae'n anodd cael cydbwysedd, ond gallai brofi os ydach chi'n cynllunio a bod yn drefnus, does dim rheswm na allech chi fod yn llwyddiannus."

Bydd Beca yn creu ambell rysait newydd i'r arweinwyr eleni ac mi fydd modd eu gweld a'u dilyn ar wefan FFIT Cymru, s4c.cymru/ffitcymru, yn ogystal â gwefan ac ap newydd, Cegin S4C.

Ychwanega Beca: "Fel rhywun sy'n astudio i fod yn ddietegydd ac sydd hefo diddordeb mawr mewn maetheg a choginio, mae'r cyfle i fod yn rhan o'r tîm, creu ryseitiau a cheisio ysbrydoli'r arweinwyr gyda bwyd, yn un ffantastig.

"Ein swydd ni yn bennaf yw i geisio dod a'r cydbwysedd nôl ym mywydau'r arweinwyr.

"Yn amlwg, mae pobl yn fy adnabod i am Bake Off, a dwi'n pobi a bwyta cacennau achos bod o'n rhywbeth dwi'n mwynhau wneud. Dyw cacen ddim yn rhywbeth dyle chi fod yn ofnus ohono!

"Dyle neb deimlo'n euog am fwyta rhywbeth a peidio mwynhau e, ond dyw e ddim yn rhywbeth dyle chi fwyta drwy'r adeg chwaith.

"Fi jyst eisiau cael yr arweinwyr i ddeall bwyd ychydig yn well, a gweld sut mae rhoi gymaint o bethau da yn eich corff yn gallu helpu eich iechyd.

"Dwi hefyd eisiau ysbrydoli hefo ryseitiau a syniadau gwahanol, i ddod a'r excitement yna nôl fewn i goginio a bwyta.

"Mae lot o gynlluniau cyffrous gen i a lot o waith o fy mlaen! Mae 'da fi cwpwl o syniadau ar y gweill!"

Hoffai S4C a Cwmni Da ddiolch i Sioned Quirke am ei holl waith caled a chyfraniad sylweddol i'r gyfres dros y pedair blynedd diwethaf.

Ydych chi eisiau bod yn un o arweinwyr y gyfres newydd o FFIT Cymru? Mae'r ffenest ymgeisio ar agor tan ddydd Sul 6 Chwefror, ewch i www.s4c.cymru/ffitcymru i wneud eich cais ar-lein.

Mae FFIT Cymru yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl o unrhyw gefndir, ac yn croesawu'n arbennig ceisiadau gan bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol, bobl anabl neu Fyddar, a bobl sy'n hunaniaethu'n LGBTQ+.

Os hoffwch sgwrs anffurfiol am fwy o wybodaeth, gallwch chi gysyllu â'r tîm cynhyrchu ar ffitcymru@cwmnida.tv.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?