S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

FFIT Cymru – mae’r gyfres sy’n trawsnewid bywydau yn ôl

4 Ebrill 2022

Wrth i bawb geisio ail gydio yn eu bywydau, bydd y gyfres FFIT Cymru yn dychwelyd i rannu syniadau positif ac ysbrydoledig gyda'r genedl.

Dros gyfnod o ddau fis, bydd pum arweinydd o bob cwr o Gymru yn ceisio trawsnewid eu hiechyd drwy ddilyn cynlluniau arbennig gan y tri arbenigwr, yr hyfforddwraig bersonol Rae Carpenter, y seicolegydd Dr Ioan Rees ac yn newydd eleni yr arbenigwr bwyd Beca Lyne-Pirkis.

Gan gychwyn nos Fawrth 5 Ebrill ar S4C gyda Lisa Gwilym yn cyflwyno, bydd yr arbenigwyr yn rhannu cyngor ac yn gweithio'n agos gyda'r arweinwyr ar sut i gadw'n ffit, sut i ofalu am les ac iechyd meddwl ac yn cynghori ar sut i fabwysiadu arferion bwyta da.

Y pump arweinydd ar gyfer y gyfres eleni yw:

Bethan Davies, 39, o Ferthyr Tudful; Gafyn Owen, 48, o Ty Croes, Sir Fôn; Ruth Roberts, 40, o Abercynon; Twm Jones, 59, o Lanerchymedd a Wendy Thomas, 58, o Aberystwyth.

Bydd FFIT Cymru yma i gynnig cysur i bawb a bydd hi'n bosib i CHI gymryd rhan adref hefyd trwy ddilyn y cynlluniau bwyd a ffitrwydd arbennig ar-lein ar wefan FFIT Cymru, www.s4c.cymru/ffitcymru ac ar gyfryngau cymdeithasol @ffitcymru.

Meddai Siwan Haf, Cynhyrchydd y gyfres: "Mae FFIT Cymru yn gyfres all helpu pobl i gadw'n iach - yn gorfforol a meddyliol a hynny wedi i ni gyd fyw trwy gyfnod digon anodd.

"Dyma blatfform aml-gyfrwng all gynnig arweiniad a help llaw ymarferol.

"Rydan ni eisoes wedi gweld yr effaith a'r trawsnewid anhygoel mae FFIT Cymru wedi ei gael ar fywydau arweinwyr ein cyfresi blaenorol, ac rydan ni'n edrych mlaen at ddod i nabod a dilyn taith ein pum arweinydd a fydd yn derbyn cyngor bob cam o'r daith unigryw hon gan ein tri arbenigwr - ac a fydd yn siŵr o ysbrydoli'r gwylwyr adref hefyd"

Bydd Beca Lyne-Pirkis yn creu ambell rysait newydd i'r arweinwyr eleni ac mi fydd modd eu gweld a'u dilyn ar wefan FFIT Cymru, s4c.cymru/ffitcymru, yn ogystal â gwefan ac ap newydd, Cegin S4C.

Meddai Beca: "Fel rhywun sy'n astudio i fod yn ddietegydd ac sydd hefo diddordeb mawr mewn maetheg a choginio, mae'r cyfle i fod yn rhan o'r tîm, creu ryseitiau a cheisio ysbrydoli'r arweinwyr gyda bwyd, yn un ffantastig.

"Ein swydd ni yn bennaf yw i geisio dod a'r cydbwysedd nôl ym mywydau'r arweinwyr.

"Fi jyst eisiau cael yr arweinwyr i ddeall bwyd ychydig yn well, a gweld sut mae rhoi gymaint o bethau da yn eich corff yn gallu helpu eich iechyd.

"Dwi hefyd eisiau ysbrydoli hefo ryseitiau a syniadau gwahanol, i ddod a'r excitement yna nôl fewn i goginio a bwyta."

FFIT Cymru

Nos Fawrth 5 Ebrill 9.00, S4C

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?