S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Amelia Anisovych, merch 7 oed o Ẃcrain a ganodd mewn lloches bom yn perfformio yn fyw ar S4C

2 Ebrill 2022

Bydd Amelia Anisovych merch 7 oed a lwyddodd i gipio calonnau led led y byd yn perfformio yn ffeinal Côr Cymru yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sul.

Fe ganodd Amelia y gân Let it Go allan o'r ffilm Frozen mewn lloches bom o dan y ddaear yn Kyiv. Aeth y fideo hynny yn feiral ac fe gafodd ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol led led y byd.

Yn sgil hynny, perfformiodd Amelia hefyd anthem Wcrain mewn cyngerdd elusennol yng Ngwlad Pwyl.

Mae Amelia wedi teithio i Aberystwyth a bydd yn perfformio yr un gan eiconig Let it Go yn ffeinal Cystadleuaeth Côr Cymru yn fyw o Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth nos Sul 3 Ebrill.

Meddai Amelia:

"Dwi wrth fy modd yn canu, a dwi'n ymarfer bob bore, pnawn a nos! Mae bob amser wedi bod yn freuddwyd i fi gael perfformio."

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:

"Mae'n fraint arbennig cael croesawu Amelia i Gymru ac i ganu yn Aberystwyth. Mae wedi bod yn benwythnos o gerddoriaeth pwerus ar S4C gyda Chyngerdd Cymru ac Wcrain a ffeinal Côr Cymru ac rydyn ni'n falch o gael uno perfformwyr Cymru ac Wcrain gan ymfalchïo yn nhalent Amelia."

Bydd modd gwylio perfformiad Amelia yn ystod rhaglen Côr Cymru 2022 – Y Ffeinal yn fyw ar S4C am 18.45 nos Sul 3 Ebrill.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?