S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi Ysgoloriaeth Newyddion er mwyn cefnogi myfyrwyr sy’n cael eu tangynrychioli

26 Mai 2022

Mae S4C wedi lansio Ysgoloriaeth Newyddion 2022-2023 heddiw ar gyfer myfyriwr sydd am ddilyn cwrs ôl-raddedig yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant Prifysgol Caerdydd.

Mae'r Ysgoloriaeth sy'n werth £6,500 yn cael ei glustnodi tuag at ffioedd dysgu, ac yn dilyn y cwrs bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael cytundeb tri mis yn adran newyddion digidol S4C.

Bwriad yr ysgoloriaeth yw meithrin a datblygu lleisiau newydd sydd â diddordeb mewn dilyn gyrfa mewn newyddiaduraeth yn yr iaith Gymraeg.

Eleni mae S4C yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan ymgeiswyr anabl, ymgeiswyr Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, ac ymgeiswyr o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol difreintiedig yn benodol.

Bydd cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw ymgeisydd sydd heb astudio yn y Gymraeg o'r blaen neu sy'n awyddus i gymryd camau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg proffesiynol.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn wreiddiol mewn teyrnged i'r bardd, nofelydd, newyddiadurwr a'r darlledwr T.Glynne Davies a fu farw yn 1988, ac mae'r ysgoloriaeth wedi cefnogi nifer o dalentau newydd i ddatblygu sgiliau newyddiaduraeth dros y blynyddoedd.

Meddai Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:

"Dyma gyfle unigryw i berson ddechrau ar yrfa newyddiadurol a gweithio ar wasanaeth digidol cyffrous Newyddion S4C.

"Â ninnau wedi lansio gwasanaeth newyddion digidol, mae hwn yn gyfle i ni roi cefnogaeth ariannol i fyfyriwr ddatblygu ei gyrfa a rhoi cyfle euraidd i berson sy'n frwd i weithio yn y maes i gael profiad uniongyrchol o weithio gyda thîm o newyddiadurwyr, a hynny ar wasanaeth cyfoes ac arloesol."

Meddai Nia Edwards Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C:

"Mae datblygu nifer o leisiau o fewn newyddiaduraeth Cymraeg yn holl bwysig ac mae dyletswydd ar S4C i gefnogi'r ymdrechion i sicrhau hyn.

"Mae'n wych felly bod Ysgoloriaeth Newyddion S4C eleni yn ffocysu ar amrywiaeth a chynhwysiant er mwyn cefnogi talent y dyfodol."

Meddai Sali Collins , Cyfarwyddwr MA Newyddiaduraeth Darlledu, Prifysgol Caerdydd

"Mae Ysgoloriaeth Newyddion S4C yn rhoi cyfle arbennig i fyfyrwyr astudio ar y cwrs MA Newyddion Darlledu blaenllaw yma. Mae hyfforddi, cefnogi ac annog cenhedlaeth newydd o newyddiadurwyr a darlledwyr, o bob cefndir, sy'n adlewyrchu Cymru gyfoes yn holl bwysig. Rydym yn ddiolchgar iawn am gymorth S4C ac yn gobeithio bydd y traddodiad o ddenu myfyrwyr brwdfrydig sy'n dilyn gyrfa eithriadol yn y diwydiant yn hir barhau."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?