S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

1.2 miliwn o sesiynau gwylio i gynnwys pêl-droed S4C ar y cyfryngau cymdeithasol

15 Mehefin 2022

Mae S4C wedi dod â rhai o ddigwyddiadau mawr chwaraeon a gwyliau ieuenctid Cymru i sgriniau a chartrefi Cymru a thu hwnt yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Daeth S4C â Chymru i'r byd drwy ei darllediad o gêm Cwpan y Byd FIFA, lle gwelwyd tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yn curo Wcráin ac ennill lle yng Nghwpan y Byd 2022 yn Qatar - y tro cyntaf iddynt gymhwyso ers 64 mlynedd.

Fe wyliodd mwy o bobl nag erioed y gêm yn Gymraeg ar S4C gan wylio Cymru yn ennill ei lle yng Nghwpan y Byd. Yn ogystal, gwelodd S4C 1.2m o sesiynau gwylio gyda'i chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Daeth y cyhoeddiad heddiw gan Sian Doyle, Prif Weithredwr, S4C yn ei hanerchiad yn nghynhadledd Copa Cyfryngau Cymru.

Bu'r ymgyrch hefyd yn gymorth i Dafydd Iwan, efo'i berfformiad o'i gân 'Yma O Hyd' yn dod i frig siart iTunes y DU yr wythnos ddiwethaf, uwchben caneuon gan artistiaid byd-eang.

Yn y cyfamser, roedd 250,000 o bobl yn gwylio darllediadau llinol S4C o Eisteddfod yr Urdd, gyda chwarter o'r rhain yn gwylio tu allan i Gymru. Yn ogystal, roedd 250,000 wedi gwylio cynnwys Eisteddfod yr Urdd S4C ar y cyfryngau cymdeithasol.

Daw'r ffigurau wrth i'r sianel baratoi i ddatgelu ei strategaeth newydd cyn ei phen-blwydd yn 40 oed eleni. Bydd y strategaeth yn ceisio dod â'r genedl ynghyd â chynnwys newydd beiddgar sy'n adlewyrchu Cymru yn ei holl amrywiaeth, a dod â chynnwys Cymraeg i'n gwylwyr, ble bynnag maent yn y byd.

Dywedodd Siân Doyle, Prif Weithredwr S4C, "Mae poblogrwydd cynyddol darlledu Cymraeg yn ennill enw da i S4C fel cartref profiadau cenedlaethol Cymru.

"Gyda chynlluniau cyffrous ar gyfer partneriaethau a chyd-gynyrchiadau rhyngwladol, mae S4C yn dod â Chymru i'r byd ac yn arwain y gwaith mewn oes newydd o ddiddordeb a chyffro byd-eang gyda thalent o Gymru.

"Hoffwn ddymuno'n dda i'r tîm pêl-droed cenedlaethol wrth iddynt baratoi at Qatar ac mae S4C yn edrych ymlaen at bartneru gyda nhw ar y daith."

Mae S4C wedi sicrhau hawliau ecsgliwsif i ddarlledu gemau tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru am ddim ar deledu cyhoeddus o 2022 hyd at 2024.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?