S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

“Dim ond dechrau’r stori oedd y beichiogi” taith pennaeth BBC Radio 1 ar ddod yn riant

22 Mehefin 2022

Ers i'r rhaglen ddogfen, DRYCH: Ti, fi a'r fam fenthyg, ddarlledu ym mis Chwefror 2021, mae bywyd pennaeth gorsaf BBC Radio 1, Aled Haydn Jones, wedi newid yn gyfan gwbl.

Bryd hynny, roedd Aled a'i bartner Emile yn ceisio cyflawni breuddwyd o fod yn rhieni, gyda chymorth yr asiantaeth Surrogacy UK.

Ar ôl profi sawl siomedigaeth roedd y cwpwl bron a digalonni. Ond prin flwyddyn a hanner wedyn mae pethau wedi newid am y gorau.

Bydd cyfle i ddarganfod y datblygiadau diweddaraf mewn rhaglen ddogfen ddilynol, DRYCH: Ti, fi a'r babi, fydd ar S4C nos Fawrth (28 Mehefin) am 9.00.

"Ni wedi bod yn trio am fabi gyda'n surrogate, Dawn, am dair blynedd hir" meddai Aled, sy'n wreiddiol o Aberystwyth ond bellach yn byw yn Llundain.

"Mae'r broses IVF wedi bod yn un dorcalonnus, llawn troeon trwstan emosiynol ac yn gwneud i ni gwestiynu popeth; a gofyn, ydy ni byth yn mynd i gael teulu'n hunain?

"Wel ma newyddion da fi, ni wedi bod yn lwcus a ma Dawn yn feichiog. Nappies, dim cysgu, sgrechen - ni yn barod."

Ac fel yn y rhaglen gyntaf, mae pob carreg filltir y daith yn cael ei ddogfennu; y foment mae Aled ac Emile yn darganfod fod Dawn yn feichiog, y scan cyntaf, yr eiliad hudol o glywed curiad calon y babi am y tro cyntaf a hyd yn oed yr enedigaeth.

Ymysg y cyfan, maent yn penderfynu priodi - ac mae cael pawb sy'n bwysig yn ei fywyd mewn un lle yn gam pwysig, a hanfodol, i Aled er mwyn iddo deimlo ei fod yn cael ei dderbyn.

"Ar ôl 17 blwyddyn gyda'n gilydd mae Emile a fi wedi penderfynu fod hi'n amser priodi.

Ni byth rili wedi dathlu'n perthynas. Nawr bod ni yma 17 mlwyddyn ar ôl cwrdd, rwy'n credu fod hi'n amser treulio diwrnod i ddathlu hwnna.

"Dyma'r tro cyntaf bydd pawb yn yr un ystafell, ac mae'n deimlad anodd i gael.

"Roedd rhaid i fi symud i ddinas fawr i ffeindio grŵp o bobol sy'n derbyn fi am bwy ydw i, felly mae tynnu teulu a phobol o Aberystwyth, micsio nhw hefo Dawn a'n teulu newydd a ffrindiau Llundain i gyd mewn un ystafell yn mynd i fod yn gam pwysig. Bydd yn helpu fi i fod yn gyfforddus hefo pwy ydw i am weddill fy mywyd."

Fel y daith flaenorol, tydi pethau ddim yn fêl i gyd i'r pâr priod newydd. Yng ngeiriau Aled: "Dim ond dechrau'r stori oedd y beichiogi".

Pan ddaw galwad brys gan Dawn yn dweud fod y babi ar y ffordd, chwe wythnos yn gynnar, mae'n rhaid rhuthro o Lundain i Swydd Derby.

A fydd Aled ac Emile yn cyrraedd yr ysbyty mewn pryd? A fydd y babi yn iawn?

A fydd cyngor rhieni eraill Surrogacy UK yn helpu sicrhau nad oes anawsterau diangen yn codi, oherwydd eu sefyllfa?

A fydd Aled ac Emile yn cael croesawu mab neu ferch i'w cartref?

O fod yn fachgen sy'n dyheu i gael ei dderbyn am bwy ydyw, i fod yn bennaeth ar un o orsafoedd radio mwyaf y byd, i Bridezilla, yna i riant balch, ymunwch ag Aled ar ei daith ddirdynnol nos Fawrth am 9.00.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?