S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilynwch y tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C

18 Awst 2022

Bydd modd dilyn y tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C gyda gemau byw o'r penwythnos cyntaf hyd at y diwedd.

Bydd Rygbi Indigo Prem yn dangos gemau bob wythnos yn ystod y tymor, ar-lein ac ar deledu. Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno Rygbi Indigo Prem, ac mi fydd hi'n cael cwmni sawl wyneb rygbi cyfarwydd yn ystod y tymor.

Bydd y gêm gyntaf i'w gweld ar S4C ar nos Sadwrn 3 Medi, gyda'r gêm rhwng Pontypridd a phencampwyr 2021/22, Caerdydd, yn Heol Sardis. Bydd y gêm yn cael ei ddangos ar S4C ac ar-lein ar S4C, gyda'r gic gyntaf am 5.30yh.

Ar nos Iau 8 Medi, bydd y gêm rhwng Abertawe ac Aberafan yn cael ei ddarlledu ar-lein ar S4C Clic, tudalen YouTube S4C a thudalen Facebook S4C Chwaraeon, am 7.30yh.

Bydd Casnewydd v Caerdydd yn cael ei ddangos ar-lein ar nos Iau 22 Medi am 7.30yh. Ar nos Iau 29 Medi, bydd y gêm rhwng Pen-y-bont a Merthyr (7.30yh) yn cael ei ddangos ar-lein, yn ogystal â'r gêm rhwng Glyn Ebwy a Llanymddyfri ar nos Iau 6 Hydref (7.30yh)

Meddai Lauren Jenkins: "Mae'n dymor newydd yn yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ac mae'n teimlo fel llechen lân ar ôl sgil effeithiau'r pandemig dros y tymhorau diwethaf. Mae'r clybiau wedi cryfhau dros yr haf, a gyda chwaraewyr fel Adam Warren, Dan Baker, Josh Lewis a Tavis Knoyle yn ymuno, bydd y safon yn sicr o godi.

"Os fel gwelsom y llynedd, mae lefel yr adloniant yn uchel dros ben gyda gelyniaethau mawr rhwng clybiau hanesyddol a gemau llawn ceisiau. Dyna yw beth mae rygbi yng Nghymru i gyd amdano."

Meddai Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Yr Uwch Gynghrair Grŵp Indigo yw pinacl rygbi clybiau yng Nghymru ac mae'n sylfaen hollbwysig i'r gamp gyfan. Mae S4C wedi ymrwymo i ddangos chwaraeon ar draws ein holl blatfformau ac rydym yn edrych ymlaen at ddangos fwy o gemau gwych ar nos Iau."

Meddai Geraint John, Cyfarwyddwr Cymunedol Undeb Rygbi Cymru: "Roedd darllediadau o gemau'r tymor diwethaf yn llwyddiannus ac yn beth positif iawn i'r chwaraewyr, hyfforddwyr, swyddogion y gêm, cefnogwyr a'r holl glybiau – ac mi fydd o'n stori debyg eleni, heb os. Mae cael y fath sylw ar draws sawl platfform yn fuddiol iawn i'r Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ac i'r gamp yn gyffredinol."

Uwch Gynghrair Grŵp Indigo 2022/23 – Gemau Byw S4C

Nos Sadwrn 3 Medi - Pontypridd v Caerdydd - CG 1730 – S4C a S4C Clic

Nos Iau 8 Medi - Abertawe v Aberafan – CG 1930 – S4C Clic, Youtube, Facebook

Nos Iau 22 Medi - Casnewydd v Caerdydd – CG 1930 – S4C Clic, Youtube, Facebook

Nos Iau 29 Medi – Pen-y-bont v Merthyr - CG 1930 – S4C Clic, Youtube, Facebook

Nos Iau 6 Hydref – Glyn Ebwy v Llanymddyfri– CG 1930 – S4C Clic, Youtube, Facebook

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?