S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

O Gymru i’r Byd: Gwledd o raglenni i ddathlu Cymru yn Qatar

28 Hydref 2022

Gydag ymddangosiad hanesyddol tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA yn agosáu, bydd S4C yn troi'r sianel yn goch ac yn dangos gwledd o raglenni i ddathlu hanes a diwylliant y bêl-gron yng Nghymru.

Am y tro cyntaf ers 1958, mi fydd Cymru yn ymddangos mewn rowndiau terfynol Cwpan y Byd ar nos Lun 21 Tachwedd wrth iddyn nhw wynebu Unol Daleithiau America yn Qatar. Bydd y gêm yma a phob gêm Cymru yn ystod y gystadleuaeth i'w gweld yn fyw ar S4C.

I adeiladu'r cyffro, mi fydd sawl raglen arbennig i gefnogwyr Cymru fwynhau ar deledu ac ar draws blatfformau digidol S4C.

Yn cychwyn y cyfan ar nos Lun 31 Hydref, bydd ffilm arbennig o'r enw Cewri Cwpan y Byd (Docshed). Bydd y ffilm yn edrych yn ôl dros y ddau ddegawd diwethaf i adrodd hanes ail-adeiladu tîm pêl-droed rhyngwladol dynion Cymru, yng ngeiriau'r chwaraewyr, rheolwyr, staff a'r cefnogwyr, gan gynnwys Gareth Bale, Chris Coleman a Rob Page.

Cewri Cwpan y Byd

Bydd cyfle i fwynhau sgwrs hwyliog rhwng Owain Tudur Jones a'i gyn gyd-chwaraewr yng nghrys Cymru ac Abertawe, Joe Allen, yn Y Gêm gyda... (Tinopolis) ar S4C Clic, YouTube S4C a phlatfformau @S4Cchwaraeon ar nos Iau 3 Hydref. Bydd Owain yn dal i fyny gyda sawl enw mawr o'r byd chwaraeon yn ystod y gyfres, gan gynnwys Gwennan Harries a Mike Phillips, gyda phob pennod yn cael ei ddangos ar S4C yn ogystal.

Ar nos Lun 7 Tachwedd, bydd Y Byd ar Bedwar: Cost Cwpan y Byd Qatar (ITV Cymru) yn bwrw golwg newyddiadurol ar y wlad sy'n gartref i Gwpan y Byd FIFA 2022. O'r amodau gwael honedig a brofwyd gan y gweithwyr a fu'n adeiladu'r stadiymau, i'r pryderon am hawliau dynol y wlad, mi fyddwn ni'n dod i ddysgu mwy am Qatar.

Ar nos Fercher 9 Tachwedd, bydd Heno: Tîm Qatar 2022 (Tinopolis) yn darlledu yn fyw o Tylorstown yn y Rhondda, ar gyfer cyhoeddiad Carfan Cwpan y Byd Cymru. Bydd criw Sgorio yn ymuno i drafod yr holl ddewisiadau ac edrych ymlaen at y gystadleuaeth.

Byddwn ni'n edrych ar gyfnod euraidd o hanes pêl-droed Cymru yn y rhaglen Bois 58 (Docshed) ar nos Sul 13 Tachwedd. Byddwn ni'n hel atgofion am ymddangosiad Cymru yng Nghwpan y Byd 1958, gan edrych ar y garfan chwedlonol a lwyddodd i gyrraedd rownd yr wyth olaf, gyda chyfweliadau â'r chwaraewyr a lluniau archif.

Hefyd ar nos Sul 13 Tachwedd, byddwn ni'n clywed mwy am y stori tu ôl i'r gân sydd wedi ei mabwysiadu fel anthem answyddogol y tîm - Yma o Hyd (Afanti Media). Bydd y rhaglen ddogfen yn dadbacio ystyr y gân glasurol, gan ddilyn taith Dafydd Iwan gyda'r tîm cenedlaethol a byddin y Wal Goch sydd wedi ei gofleidio.

Ar nos Wener 18 Tachwedd, byddwn ni'n codi lefelau'r cyffro hyd yn oed yn uwch ar y Wal Goch: Cwpan y Byd 2022 (Afanti Media). Bydd Yws Gwynedd a Mari Lovgreen yn cyflwyno'r rhaglen adloniant yma sy'n cyfuno pêl-droed, cerddoriaeth byw a digon o chwerthin, gyda phennod yn cael ei ddangos bob nos Wener yn ystod Cwpan y Byd.

Wal Goch: Cwpan y Byd 2022

Yna ar noswyl y gêm fawr rhwng Cymru a'r UDA, byddwn ni'n cynnal dathliad o iaith, diwylliant a thalent Gymreig mewn cyngerdd arbennig yn Efrog Newydd, Cyngerdd Cymru i'r Byd (Orchard), ar nos Sul 20 Tachwedd. Wedi ei chynnal yn Sony Hall, Time Square, bydd y cyngerdd yn cyd-fynd â Gŵyl Wrecsam ac yn cynnwys perfformiadau o leoliadau eiconig ar draws Gymru, a chyfraniadau gan Ioan Gruffudd, Mathew Rhys, Michael Sheen a llu o artistiaid dawnus.

Yn dilyn y cyngerdd, byddwn ni'n cael mewnwelediad ecsgliwsif i'r tîm sydd yn galluogi Rob Page a charfan Cymru i berfformio ar y cae, yn y rhaglen Y Tîm Tu Ôl i'r Tîm (Rondo Media). Bydd y rhaglen yn dilyn rhai o aelodau allweddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth eu gwaith, yn gwneud penderfyniadau fydd yn cael effaith arwyddocaol ar lwyddiant y tîm cenedlaethol.

Dros y cyfnod, bydd Hansh yn taflu goleuni ar y cefnogwyr ffyddlon sy'n dilyn tîm Cymru ar draws y byd yn y gyfres Pa Fath o Bobl (Boom Cymru), gyda Garmon ab Ion.

I blant, mi fydd cyfres newydd o'r rhaglen chwaraeon CIC (Boom Cymru) yn cychwyn yn ystod Cwpan y Byd, gyda rhaglenni byw bob prynhawn dydd Gwener yn cael ei gyflwyno gan Heledd Anna, Lloyd Lewis a Huw Owen.

Bydd Stwnsh yn dod a'r egni yn fyw bob bore dydd Sadwrn gyda rhaglenni yn bwrw golwg hwyliog ar Gwpan y Byd. A gyda phlant y genedl yn cymryd rhan yn Jambori Cwpan y Byd yr Urdd (Boom Cymru), mi fydd rhaglen arbennig Stwnsh yn arddangos y cyfan.

Bydd cyfryngau cymdeithasol S4C yn chwarae rhan ganolog yn ystod y cyfnod, gyda chynnwys amrywiol yn adlewyrchu cynnwrf y genedl. Bydd cân swyddogol Cwpan y Byd FIFA S4C yn cael ei lansio ym mis Tachwedd, a chyfres o'r enw Dechrau'r Daith, fydd yn mynd i wreiddiau rhai o chwaraewyr Cymru i weld man cychwyn eu taith i fod yn sêr bêl-droed rhyngwladol.

Yn ystod y bencampwriaeth, bydd cynnwys dyddiol ar draws gyfrifon Facebook, Twitter ac Instagram S4C Chwaraeon, tra bydd Sioned Dafydd yn cyflwyno rhaglenni cyn bob gêm yn trafod y newyddion diweddaraf o'r garfan.

Meddai Llinos Griffin-Williams, Prif Swyddog Cynnwys S4C: "Wrth i'n tîm cenedlaethol gamu ar lwyfan pêl-droed mwyaf y byd, mi fydd S4C yn adlewyrchu cyfoeth ac amrywiaeth diwylliant Cymreig gyda phecyn anhygoel o gynnwys.

"O Efrog Newydd, i Wrecsam, y Rhondda a Doha, mi fydd ein rhaglenni yn mynd a'n gwylwyr ar daith ryngwladol drwy ein hanes a'n treftadaeth, gyda digon o hwyl ar hyd y ffordd.

"Wrth gwrs, yn ganolog i bopeth bydd y pêl-droed ac mi fyddwn ni'n rhoi'r gwylwyr yng nghanol y Wal Goch yn Qatar gyda'n gemau byw a dewislen eang o gynnwys draws-blatfform.

"Rydym yn ddiolchgar iawn i Gymdeithas Bêl-droed Cymru am ein partneriaeth agos sy'n ein galluogi i gynnig llechen o gyfresi sy'n dathlu pwysigrwydd y bêl-gron i'n genedl.

"Yn bwysicach oll, hoffwn ddymuno pob lwc i Gymru ar ran pawb yn S4C. Mi ydyn ni'n hynod o falch ohonoch chi ac mi fyddwn ni gyda chi bob cam o'r ffordd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?