S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C a Los Blancos yn cyhoeddi Cân Cwpan y Byd swyddogol – ‘Bricsen Arall’

3 Tachwedd 2022

Mae'r band Los Blancos wedi cyhoeddi cân arbennig ar gyfer S4C i ddathlu ymddangosiad hanesyddol Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA 2022 – 'Bricsen Arall'.

Bydd y gân yn cael ei rhyddhau ar ddydd Iau 3 Tachwedd, ychydig dros bythefnos tan gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd, fydd i'w gweld yn fyw ar S4C – cartref pêl-droed Cymru.

Bydd y gân i'w glywed ar wasanaethau ffrydio poblogaidd megis iTunes, Spotify, Amazon a Soundcloud, gyda'r fideo yn cael ei ryddhau ar sianel YouTube S4C.

"Fi 'di bod yn aros ers oes am yr eiliad hyn.

"64 mlynedd, pum mis a dau ddydd – ond pwy sy'n cyfrif?"

Dyna yw'r geiriau sydd yn cael ei hail-adrodd yng nghytgan bachog y gân, sydd yn adlewyrchu'r boen hanesyddol mae cefnogwyr Cymru wedi dioddef, yn ogystal â'r gorfoledd sydd wedi dod yn sgil oes aur y tîm dros y blynyddoedd diwethaf.

Un peth sydd yn amlwg wrth wrando ar y gân yw bod y band, sydd yn wreiddiol o Gaerfyrddin, yn aelodau selog o'r Wal Goch.

Bricsen Arall gan Los Blancos - Cân Swyddogol S4C ar gyfer Cwpan y Byd FIFA 2022.

Dywedodd Dewi, gitarydd bas Los Blancos: "Mae pob un ohonon ni'n massive football fans ac yn gefnogwyr mawr o dîm Cymru, ac mi rydyn ni'n mynd i'r gemau yn aml.

"Felly pan wnaeth S4C gysylltu i ofyn a bydda'i unrhyw ddiddordeb gennym ni i recordio cân Cwpan y Byd , roedd o'n no brainer rili!

"Mae bod yn gefnogwyr yn rhoi bach o bwysau arnom ni achos mae hyn yn rhywbeth ti'n breuddwydio am wneud, ond rhywbeth ti byth yn meddwl cei 'di'r cyfle i actually wneud.

"Felly pan ddaeth yr amser i eistedd lawr ac ysgrifennu cân, roedden ni just ar goll am gwpwl o wythnosau, hefo writer's block a methu meddwl am syniadau. Roedd e'n tough! Roedd e'n hollol wahanol i'n proses arferol o sgwennu cân."

Sut mae'r band yn gobeithio bydd ymateb cefnogwyr Cymru i'r gân?

"Fi'n gobeithio fod pobl yn mynd i hoffi fe," meddai Dewi. "Ni wedi cael cyfle gwych gan S4C i recordio cân i nodi Cwpan y Byd, a gobeithio caiff e dipyn o sylw.

"Dwi'n gobeithio fod ffans Cymru yn meddwl fod e'n gân eitha' catchy a bod pobl yn gallu canu ymlaen gyda fe.

"A gobeithio cawn ni berfformio hwn yn y stadiwm pan fydd Cymru yn qualifyio i Gwpan y Byd 2062, fel Dafydd Iwan!"

Bydd 'Bricsen Arall' gan Los Blancos yn cael ei ryddhau ar wasanaethau ffrydio, sianel YouTube S4C, a chyfryngau cymdeithasol @S4C ar ddydd Iau 3 Tachwedd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?