S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cwpan y Byd FIFA 2022: Rhagolygon Tîm S4C

18 Tachwedd 2022

Toc cyn saith o'r gloch ar nos Lun 21 Tachwedd, mi fydd Hen Wlad fy Nhadau i'w chlywed mewn Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Drwy gamu ar y maes yn Stadiwm Ahmad bin Ali, mi fydd chwaraewyr Cymru yn efelychu arwyr Jimmy Murphy wrth gynrychioli eu gwlad ym mhencampwriaeth pêl-droed fwyaf y byd.

Bydd pob gêm Cymru i'w gweld yn fyw ar S4C – cartref pêl-droed Cymru, gyda'r sianel yn troi'n goch i ddathlu'r achlysur hanesyddol yma.

Gyda dyddiau yn unig cyn i'r bencampwriaeth gychwyn, cawsom sgwrs gyda thîm cyflwyno Cwpan y Byd S4C, i glywed eu rhagolygon am y gystadleuaeth.

Dyma beth oedd Dylan Ebenezer, Sioned Dafydd, Gwennan Harries, Owain Tudur Jones a Malcolm Allen i ddweud:

Dylan Ebenezer

Pa chwaraewyr ydych chi'n edrych ymlaen at gael gweld fwyaf yng Nghwpan y Byd eleni?

Dylan: Lionel Messi.

Sioned: Mae tocyn 'da fi i weld yr Ariannin v Mecsico, felly fi'n ffili aros i weld Lionel Messi yn chwarae!

Gwennan: Gavi a Pedri i Sbaen. Sêr y dyfodol.

OTJ: Neymar.

Malcolm: Julian Alvarez i'r Ariannin. Hogyn ifanc sydd yn chwarae i Man City. Mae o'n gallu sgorio ond hefyd mae'n greadigol iawn.

Sioned Dafydd

Pwy fydd chwaraewr disgleiriaf dros Gymru a phwy fydd arwr tawel y garfan?

Dylan: Bydd Brennan Johnson yn disgleirio a Ben Davies yn arwr tawel.

Sioned: Brennan Johnson a Dan James.

Gwennan: Brennan Johnson a Ben Davies.

OTJ: Brennan Johnson a Joe Rodon.

Malcolm: Aaron Ramsey fydd ein chwaraewr disgleiriaf. Mae gen i deimlad fod hwn yn llwyfan perffaith iddo. A Joe Rodon fel arwr tawel.

Prif sgoriwr Cymru?

Dylan: Gareth Bale.

Sioned: Gareth Bale.

Gwennan: Aaron Ramsey.

OTJ: Gareth Bale.

Malcolm: Kieffer Moore.

Gwennan Harries

Cymru, UDA, Lloegr ac Iran – pa ddau dîm sy'n cipio'r ddau safle uchaf yng Ngrŵp B?

Dylan: Bydd Iran yn anodd, ond Cymru a Lloegr i fi.

Sioned: Lloegr yn gyntaf, Cymru yn ail.

Gwennan: Grŵp agos, ond Lloegr a Chymru fydd yn ail.

OTJ: Lloegr a Chymru.

Malcolm: Cymru a Lloegr.

Owain Tudur Jones

Pwy fydd yn hawlio'r esgid aur am sgorio'r mwyaf o goliau yng Nghwpan y Byd 2022?

Dylan: Kylian Mbappe.

Sioned: Karim Benzema.

Gwennan: Ronaldo neu Karim Benzema.

OTJ: Kylian Mbappe.

Malcolm: Lionel Messi.

Pa wlad fydd all greu syndod a mynd yn bell yn y gystadleuaeth?

Dylan: Siapan.

Sioned: Siapan.

Gwennan: Bydd Iran yn rhoi sioc i rywun.

OTJ: Denmarc.

Malcolm: Yr Iseldiroedd.

Malcolm Allen

Pwy fydd enillwyr Cwpan y Byd?

Dylan: Brasil.

Sioned: Brasil.

Gwennan: Portiwgal.

OTJ: Portiwgal.

Malcolm: Yr Ariannin...ond ella ddim os fydd Cymru yn y ffeinal!

Cwpan y Byd FIFA 2022: UDA v Cymru

Nos Lun 21 Tachwedd, 6.00

Yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer

Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?