S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tachwedd yn fis bythgofiadwy i Gymru ac i S4C

7 Rhagfyr 2022

- Cartref pêl-droed Cymru: Gwylwyr yn heidio i S4C yn ystod Cwpan y Byd

- Gogglebocs Cymru yn perfformio'n gryf ac yn denu cynulleidfa ifanc

- Mis gorau erioed i gyfryngau cymdeithasol S4C

Mae mis Tachwedd wedi bod yn llwyddiannus dros ben i S4C gyda pherfformiad cryf ar draws phlatfformau gwylio a ffigyrau uchaf erioed ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae arlwy'r sianel wedi profi'n hynod boblogaidd, gyda darllediadau o gemau byw Cwpan y Byd yn denu dwbl y gynulleidfa a wyliodd gemau Euro 2020, a gwylwyr yn canmol arlwy arbennig S4C a'r tîm cyflwyno.

I ddathlu camp hanesyddol tîm Cymru, bu S4C yn dangos sawl rhaglen arbennig dros y cyfnod gan gynnwys Yma o Hyd, Tîm tu ôl i'r Tîm a Bois 58, ac fe dderbyniodd y rhaglenni ymateb cadarnhaol gan y gynulleidfa.

Fe lwyddodd cyfres newydd Gogglebocs Cymru i ddenu cynulleidfa eang, gyda dros 210,000 yn ei mwynhau ar draws y Deyrnas Unedig.

Osian a Nayema, sêr Gogglebocs Cymru.

Roedd canran sylweddol o'r gynulleidfa rhwng oedran 22 a 45, gyda dau draean o'r gynulleidfa yn gwylio ar blatfformau dal i fyny S4C.

Mae prif gyfrifon cyfryngau cymdeithasol S4C wedi llwyddo i dorri record fel y mis gorau erioed am y nifer o sesiynau gwylio fis Tachwedd.

Yn ogystal llwyddodd prif gyfrifon S4C i gyrraedd yr oriau gwylio gorau erioed a'r ffigurau ymwneud uchaf erioed.

Ac am y tro cyntaf, fe lwyddodd cyfrifon TikTok S4C, (S4C, S4C Chwaraeon a Hansh) ddenu dros filiwn o wylwyr mewn mis.

Yn dod i'r brig am y clipiau mwyaf poblogaidd roedd fideo o gwestiynau cyflym gyda Joe Allen ar gyfrif Facebook S4C Chwaraeon, fideo ar TikTok S4C o sgwrs gyda Rob McElhenney a chlip o Gemma Collins yn canu Yma o Hyd ar gyfrif Hansh.

Meddai Sian Doyle, Prif Weithredwr S4C: "Roedd mis Tachwedd yn hynod o brysur wrth i ni ddathlu ein pen-blwydd yn 40, ymfalchïo yn ymddangosiad tîm bêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd Qatar, arddangos ein talent ragorol yng nghyngerdd Cymru i'r Byd yn Efrog Newydd, a lansio'r gyfres gyntaf o Gogglebocs Cymru.

"S4C yw cartref pêl-droed Cymru ac fe wnaethon ni droi'r sianel yn goch i ddangos ein cefnogaeth at dîm Cymru yn ystod Cwpan y Byd.

"Mae wedi bod yn fraint i fod yn rhan o'r daith gyda thîm pêl-droed Cymru a gweithio gyda'n partneriaid cynhyrchu i ddod ac arlwy ardderchog i'n cynulleidfa.

"Roedd yr ymateb ar gyfryngau cymdeithasol yn anhygoel, gyda mwy o bobl nag erioed yn troi atom a mwynhau ein cynnwys aml-platfform.

"Mae'n hynod o galonogol i weld yr holl gynnwys yn taro deg gyda'n chynulleidfa graidd a chynulleidfaoedd newydd, ar draws Cymru a thu hwnt."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?