S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dangos tair gêm o rowndiau 16 olaf rygbi Ewrop

26 Ionawr 2023

Wrth i ranbarthau rygbi Cymru gystadlu yn rownd yr 16 olaf Cwpan Pencampwyr Ewrop Heineken a Chwpan Her EPCR, mi fydd S4C yn dangos tair o'r gemau'n fyw.

Dros benwythnos 31 Mawrth i 2 Ebrill, bydd modd gwylio dwy gêm fyw o Gwpan Her EPCR ac un gêm o Gwpan Pencampwyr Ewrop Heineken ar S4C a S4C Clic.

Ar nos Wener 31 Mawrth, bydd y gêm rhwng Scarlets a Brive yn y Gwpan Her i'w gweld yn fyw, gyda'r gic gyntaf am 8.00yh.

Yna, ar nos Sadwrn 1 Ebrill, mi fydd S4C yn darlledu'r gêm Gwpan Her rhwng Caerdydd a Sale, gyda'r gêm yn cychwyn am 8.00yh.

Ar ddydd Sul 2 Ebrill, mi fydd y Gweilch yn teithio i Lundain i herio Saracens yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop, gyda'r gêm yn cael ei dangos ar S4C am 3.00yh.

Ymunwch â Rhys ap William, Lauren Jenkins, Gareth Roberts, Gwyn Jones â'r tîm i weld pwy fydd yn ennill eu lle yn rowndiau'r chwarteri.

Gemau byw ar S4C

Nos Wener 31 Mawrth – Cwpan Her: Scarlets v Brive - CG 8.00yh.

Nos Sadwrn 1 Ebrill - Cwpan Her: Caerdydd v Sale - CG 8.00yh.

Dydd Sul 2 Ebrill – Cwpan Pencampwyr: Saracens v Gweilch - CG 3.00yh.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?