S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch Chwe Gwlad Guinness a Dan 20 ar S4C

27 Ionawr 2023

S4C fydd yr unig le i wylio pob gêm Cymru yn Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness a Chwe Gwlad Dan 20 eleni.

Bydd Clwb Rygbi Rhyngwladol yn dilyn timoedd Cymru yn y ddwy bencampwriaeth, gyda gemau yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

Bydd y tymor Chwe Gwlad yn cychwyn nos Wener 3 Chwefror, wrth i dîm Dan 20 Cymru groesawu Iwerddon i'r Stadiwm CSM ym Mae Colwyn, cyn i dimoedd y dynion fynd benben â'i gilydd yn y Stadiwm Principality ar Ddydd Sadwrn 4 Chwefror.

Yna dros y chwe wythnos ganlynol, bydd y timoedd yn wynebu'r Alban, Lloegr, Yr Eidal a Ffrainc, gyda phob gêm i'w gweld ar Clwb Rygbi Rhyngwladol.

Bydd Sarra Elgan a Catrin Heledd yn cyflwyno, gyda Lauren Jenkins a Rhodri Gomer yn gohebu, tra bydd Cennydd Davies yn cael cwmni Gwyn Jones, Jonathan Davies a Sioned Harries yn y pwynt sylwebu.

Bydd Shane Williams, Nicky Robinson, Dyddgu Hywel, Andrew Coombs, Lloyd Lewis ac Ifan Phillips yn rhan o'r tîm dadansoddi, fydd yn edrych ymlaen at bob gêm ac yn rhannu eu hymateb yn dilyn pob perfformiad.

Mae Clwb Rygbi Rhyngwladol yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.

Meddai Sarra Elgan, Cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol: "Dyma'r adeg fwyaf cyffrous y flwyddyn i unrhyw gefnogwr tîm rygbi Cymru.

"Mae'r Chwe Gwlad Guinness yn mynd i fod yn agosach nag erioed eleni ac fel pob blwyddyn, rydyn ni'n gobeithio gweld Cymru'n perfformio'n dda. Gobeithio gallwch chi ymuno â ni am y daith gyfan."

Bydd BBC Cymru yn dangos holl gemau Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad y Menywod, sy'n cael ei gynnal ym mis Mawrth ac Ebrill.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?