S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dilyn stori Ani mae'r gyfres, cyfreithwraig lwyddiannus sengl sydd newydd droi'n ddeugain ac sy'n penderfynu defnyddio banc sberm i gael babi.

Ond nid yw bod yn fam yr hyn roedd Ani'n ei ddisgwyl o gwbl.

Mae Anfamol yn addasiad teledu o ddrama lwyfan Rhiannon Boyle fydd i'w weld ar S4C o 6 Medi ac sy'n cael ei ryddhau fel Bocs Set ar yr un dyddiad.

Medd Rhiannon:

"Mae'n dywyll ond doniol, ac mae darnau Ani at gamera yn sicr am gael pobl i deimlo'n anesmwyth ac yn chwerthin ar yr un pryd."

Bethan Ellis Owen sy'n chwarae'r brif ran yn y ddrama, meddai fod y gyfres yn "rhoi rhyddid i famau wybod bod hi'n iawn i fod yn flin efo'u plant neu beidio'u licio nhw weithiau, a bod hynny ddim yn golygu nad ydyn nhw'n eu caru nhw". Ychwanega mai "... dyma'r tro cyntaf i S4C ddangos drama sydd yn llawn rhyw a dynion secsi De Americanaidd sy'n siarad Cymraeg."

Bu Bethan chwarae'r un rhan - Ani - yn y ddrama lwyfan fu'n teithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ddiwedd 2021.

Y tro hwn, daw'r cymeriadau oedd yn cael eu trafod yn rhan o fonolog lwyfan gwreiddiol Ani yn dod yn gymeriadau cig a gwaed.

Ymysg y cast mae Wynford Ellis Owen – tad Bethan – yn chwarae rhan tad Ani.

Daeth yr ysbrydoliaeth i'r ddrama yn sgil profiadau personol yr awdur, Rhiannon Boyle o ddod yn rhiant:

"Pan ges i ddwy o ferched o fewn 21 mis na'th o hitio fi fatha trên. Ar y tu allan o'n i'n ymdopi'n wych ond tu mewn o'n i'n rili stryglo efo colli hunaniaeth, blinder, gorbryder, iselder, teimlo'n anweledig a bored.

"O'n i isho siarad am y teimladau yna fel bod mamau eraill sy'n teimlo'r un fath yn gallu uniaethu a teimlo bod nhw ddim ar eu pen eu hunain.

"Dyma ddrama sy'n lleisio pethau mae pobl ofn, neu rhy embarrassed i siarad amdanynt. Mae hi'n gomedi ffraeth, di-flewyn ar dafod sy'n llawn hiwmor ond sydd â stori emosiynol llawn cariad a gobaith wrth wraidd y naratif."

Mae Anfamol yn cynrychioli merched cryf Cymru nid yn unig ar y sgrin ond hefyd y tu ôl i'r llenni. Mewn diwydiant lle mae merched yn cael eu tangynrychioli ar set, y nod oedd sicrhau bod cymaint o fenywod â phosibl yn rhan o'r tîm cynhyrchu.

Daeth Bethan ei hun yn fam i Jesi, ei thrydydd plentyn nôl ym mis Hydref y llynedd – ychydig cyn dechrau ffilmio'r gyfres, a bu'r amserlen saethu'n ystyrlon o'i hangenion fel mam newydd:

"Achos mai Anfamol ydi o a'r hanes efo'r sioe lwyfan a'r pynciau sydd yn Anfamol, o'dd o'n teimlo'n haws i fynd yn ôl i'r gwaith rywsut" meddai Bethan.

"Gan fod Jesi'n cael dod efo fi, roedd o'n manageable rywsut - fel arall dwi'm yn meddwl baswn i wedi gallu mynd i wneud gwaith arall. Roedd hwn mor wahanol ac unigryw - baswn i byth 'di deud na iddo fo…sw'n i di'i neud o'r diwrnod ar ôl geni os fyddai raid i fi!

"Roedd cymaint o ferched yn gweithio ar y rhaglen ar y set dwi'n meddwl bod pawb yn deall ei gilydd ac yn dod o'r un lle a rhannu profiadau. Dwi'n meddwl bod hynny wedi gwneud y cynhyrchiad yn rywbeth unigryw."

Ychwanega'r Cynhyrchydd Branwen Williams:

"Dyma gynhyrchiad cyntaf BBC STUDIOS i S4C ac mae'n fraint gan y cwmni i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg i Gymru.

"Er mai stori am ferch yn dod yn fam ydi Anfamol, a'r holl heriau sy'n dod gyda hynny - mae gymaint mwy i'r ddrama hon y gall y gynulleidfa uniaethu gyda, beth bynnag eu rhywedd neu brofiad personol. Dyma stori am berthnasau cymhleth rhwng teulu, ffrindiau, cyd-weithwyr a'r bobl ddiarth 'da ni gyd yn dod ar eu traws o ddydd i ddydd. Mae'n stori i dadau, mamau, i rai sy'n dymuno cael plant, i'r rhai sydd methu cael plant, neu sydd ddim eisiau plant o gwbl. Dyma bum pennod sy'n ein harwain ar siwrne ddidwyll a digrif i herio'r syniad confensiynol o phwy a beth yw teulu."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?