A hithau'n ŵyl San Ffolant mae cyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn chwilio am gariadon Cymru sydd yn dymuno priodi am £5,000.
Mae'r gyfres yn cynnwys cael teulu a ffrindiau y pâr lwcus i drefnu eu priodas gyda chymorth y ddau gyflwynydd Emma Walford a Trystan Ellis-Morris.
Mae'r trefniadau at y diwrnod arbennig yn digwydd heb yn wybod i'r pâr, a rhaid i bopeth gostio llai na £5,000.
Medd Emma sydd wedi cyflwyno'r gyfres ers ei dechrau dros wyth mlynedd yn ôl:
"Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a'u teuluoedd, wedi bod yn arbennig.
"Mae'r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni'n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim isho siomi neb! Ond hyd yma, efo dros 50 o briodasau wedi bod, mae hi'n parhau yn llwyddiannus."
Bydd y gyfres newydd i'w gweld dros gyfnod y Nadolig ac i fewn i'r flwyddyn newydd eleni, ac mae S4C yn annog cyplau i gyflwyno cais trwy dilyn y ddolen: www.priodas.cymru.
Gall y briodas fod yn un draddodiadol neu cael thema yn rhedeg drwyddi. Gall y briodas fod mewn capel neu ar draeth neu mewn castell hyd yn oed. Gall y cyplau wisgo ffrog wen a siwt a thei, neu wisgo fyny fel cymeriadau ffilm!
Yn nghyfres ddiwethaf Priodas Pum Mil roedd Jack a Silvia am uno traddodiadau Serbia gwlad enedigol teulu mam Silvia, gyda cynnal priodas mor eco gyfeillgar â phosib. Doedd dim gwastraff yn eu priodas – eu dillad yn ail law, ceir trydan a llestri eu cyfeillion. A phawb yn nodi pa mor 'berffaith' oedd y briodas.
Medd Emma:
"Baswn i'n annog unrhyw un sydd awydd priodi i wneud cais i'r rhaglen.
"Mae cymaint o brofiad efo ni fel tîm erbyn hyn, ond allwn ni ddim ei gwneud hi heb deulu a ffrindiau y cwpwl wrth gwrs.
"Does dim ots os oes thema neu beidio, bo' chi am briodi adref yn lleol, neu falle am fentro yn bellach i ffwrdd..."
Fel dywedodd y priodfab mewn pennod diweddar o Priodas Pum Mil pan briododd Nia a Geraint o Frynaman: