S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C i ddarlledu holl Gemau Rhagbrofol Ewrop Cwpan y Byd FIFA 2026 yn fyw

7 Mawrth 2025

Mae S4C yn falch o gyhoeddi y bydd holl gemau tîm dynion Cymru yn ystod gemau Rhagbrofol Ewrop Cwpan y Byd FIFA 2026 yn cael eu darlledu'n fyw ar draws ei llwyfannau.

Daw'r cadarnhad yn sgil cytundeb hawliau newydd rhwng UEFA a'r BBC fydd yn sicrhau y bydd y gemau yn parhau gyda sylwebaeth Gymraeg ar S4C.

Meddai Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C;

"Rydym yn falch iawn o fedru parhau i ddangos y gemau yma'n fyw, gan adeiladu ar flynyddoedd o ddarlledu pêl-droed rhyngwladol o'r safon uchaf ar S4C.

"Mae S4C yn gartref i bêl-droed Cymru o lawr gwlad i'r brig, ac rydym yn falch o'r berthynas arbennig sydd gennym gyda chefnogwyr Y Wal Goch a Chymdeithas Bêl-droed Cymru. Gyda chyffro'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd FIFA 2026 ar fin dechrau, mae'n wych i gadarnhau y bydd cefnogwyr yn medru parhau i fwynhau angerdd ein sylwebwyr Cymraeg yn fyw ar draws platfformau S4C."

Bydd tîm Sgorio Rhyngwladol yn dod â chyffro yr holl ymgyrch gan ddechrau gyda'r gem gyntaf yn erbyn Kazakhstan o Stadiwm Dinas Caerdydd, ddydd Sadwrn 22 Mawrth, cyn dilyn y daith i Ogledd Macedonia dridiau yn ddiweddarach.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?