
10 Ebrill 2025
Yn dilyn llwyddiant hanesyddol Clwb Rygbi Caernarfon dydd Sadwrn diwethaf yn rownd derfynol Cwpan Adran Un yn Stadiwm Principality, mae rhaglen ecsgliwsif ar YouTube S4C, Cofis yn y Ffeinal, yn dilyn y tîm wrth iddynt baratoi at y gêm holl bwysig.
Yn y ddogfen arbennig yma, mae Dafydd Roberts, cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr Clwb Rygbi Caernarfon, yn dilyn y garfan yn yr wythnos yn arwain at y gêm enfawr yn erbyn Clwb Athletic Pen-y-bont. Y tro cyntaf i'r ddau glwb gyrraedd y rownd derfynol.
Mae Cofis yn y Ffeinal ar gael ar YouTube S4C nawr.
Ymysg y garfan mae Carwyn Roberts, brawd Dafydd, sy'n asgellwr i'r clwb ac yn gweithio yn Ysgol Tregarth ym Mangor. Mae'n hawdd anghofio bod y bechgyn yn y garfan yn gweithio'n llawn amser ar ben chwarae'r holl rygbi ac yn ogystal ag athrawon, mae yna drydanwyr, ffermwyr, seiri a hyd yn oed peilot.
Mae gan Glwb Rygbi Caernarfon dros 350 o aelodau iau a 500 o aelodau hŷn yn y clwb, ac mae tîm y dynion yn chwarae yng nghynghrair Adran Un y gogledd.
"Be 'di pobl ddim yn sylwi ydi faint mor llwyddiannus a faint o thrivio mae rygbi cymunedol ar y funud," dywedodd Dafydd wrth gyfeirio at y cyfnod anodd mae rygbi Cymru wedi profi yn ddiweddar.
"Dau glwb yn cael dod i chwarae ar gae rhyngwladol Cymru - dim llawer sy'n gallu deud hynny."
Teithiodd dros 700 o gefnogwyr Caernarfon i'r gêm gan brofi bod rygbi yma o hyd yn yr ardal hon.
Dave Evans yw rheolwr y Clwb, ac er mai dyma fydd ei dymor olaf, mae o wrth ei fodd gyda llwyddiant y clwb a'r gefnogaeth maen nhw wedi ei dderbyn.
Cyn y gêm, dywedodd Dave:
"Ma'n stress neis yndi - achos os ti'n cwblhau bob dim a ma bob dim 'di ffitio'n ei le ma jyst yn neud i chdi deimlo bo chdi 'di cyflawni wbath."
"Yr holl gefnogaeth 'da ni wedi cael ar social media a pobl yn anfon negeseuon i fi - ma' 'di bod yn nyts!"
Llwyddodd y Cofis i guro'r gwpan - y tro cyntaf i unrhyw glwb rygbi o ogledd Cymru - a hynny mewn gêm gyffrous ac agos iawn gyda sgôr derfynol o 30-29.
Ar y chwiban olaf, mae balchder y chwaraewyr, yr hyfforddwyr a'r cefnogwyr yn amlwg:
"Dwi'n crynu - s'gen i ddim geiria'," meddai Dafydd, "Dyna chdi greu hanes i glwb - sbia faint o Gaernarfon sydd yma yn cefnogi hefyd. Hollol, hollol amazing."
"Dwi'n siwr fydd yna dîm arall o Glwb Rygbi Caernarfon yma yn y dyfodol - efo'r talent ifanc sy'n dod drwodd, dwi'n siwr fydd yna dîm arall yn ôl yma mewn cwpwl o flynyddoedd. A'r Cofi Army efo nhw hefyd!"
Mae Cofis yn y Ffeinal ar gael ar YouTube S4C nawr.