Y Wasg

Y Wasg

Penodiad Newydd: Pennaeth Ffrydio a Digidol i S4C

6 Hydref 2025

Mae S4C yn falch o gyhoeddi penodiad Tecwyn Davies fel Pennaeth Ffrydio a Digidol  - rôl allweddol wrth wireddu amcanion Strategaeth 2030 S4C: ‘Mwy na Sianel Deledu’.

Bydd Tecwyn yn arwain ar waith sydd yn ymestyn tu hwnt i ddarlledu traddodiadol, yn ehangu presenoldeb digidol S4C a chofleidio’r cyfleoedd i wasanaethu cynulleidfaoedd gwahanol ar draws amryw o blatfformau - gan symud yn hyderus at fod yn wasanaeth digidol-yn-gyntaf.

Mae gan Tecwyn brofiad helaeth yn y maes digidol, a llwyddiant wrth adeiladu cynulleidfaoedd ac ymgysylltiad i rai o frandiau chwaraeon, cyfryngau ac adloniant amlyca’r byd. Gyda gyrfa yn ymestyn dros rolau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, FIFA, Uwch Gynghrair Lloegr a Chwpan Rygbi'r Byd, mae Tecwyn wedi cyflwyno strategaethau a chynnyrch digidol arloesol sydd wedi trawsnewid y ffordd mae defnyddwyr yn ymgysylltu.

Gan arbenigo mewn datblygu cynnyrch digidol, ymgysylltu â defnyddwyr a thwf sy’n cael ei yrru gan ddata, mae Tecwyn wedi goruchwylio creu gwefannau, apiau, gwasanaethau ffrydio a llwyfannau ’gaming’ sydd wedi cyrraedd miliynau o ddefnyddwyr ledled y byd. Mae Tecwyn yn angerddol am ddefnyddio technoleg i ddod â chynulleidfaoedd yn nes at y cynnwys a’r cyffro ac mae’n cyfuno creadigrwydd gyda ffocws masnachol.

Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Rydym wrth ein boddau i groesawu Tecwyn i’r tîm ar adeg mor allweddol yn esblygiad S4C wrth i ni roi ffocws cynyddol ar ffrydio a phlatfformau digidol mewn ymateb i newidiadau sylweddol mewn arferion gwylio. Mae’r strategaeth ‘Mwy na Sianel Deledu’ yn galw am feddwl beiddgar a dull digidol blaengar, ac mae Tecwyn yn dod â’r weledigaeth a’r profiad i’n helpu i gyflawni hynny."

Ychwanegodd Tecwyn Davies:

“Mae’n fraint ymuno a S4C ar adeg mor gyffrous, gyda Strategaeth 2030 yn gosod gweledigaeth hyderus ar gyfer y dyfodol. Rwy’n angerddol am adeiladu cynulleidfaoedd digidol a sicrhau bod S4C yn cysylltu â mwy o bobl nag erioed o’r blaen, gan ddathlu Cymru a’r Gymraeg ar bob llwyfan. Wrth weithio ochr yn ochr â thîm mor wych, alla i ddim aros i ddechrau.”

Bydd Tecwyn yn dechrau yn ei swydd newydd gyda S4C fis Rhagfyr.