
18 Mehefin 2026
Bydd S4C yn darlledu’n fyw o Bencampwriaeth Ewrop D19 UEFA 2026 dros yr haf, wrth i Ogledd Cymru gynnal y twrnamaint rhyngwladol am y tro cyntaf.
Bydd y gystadleuaeth yn digwydd rhwng 28 Mehefin ac 11 Gorffennaf 2026, gyda gemau’n cael eu cynnal yn Wrecsam, Bangor, Caernarfon a Dinbych.
Bydd S4C yn dangos pob gêm Cymru yn fyw, yn ogystal â rownd derfynol y bencampwriaeth, ar S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube Sgorio.
Bydd sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ar gael.
Mae wyth gwlad yn cymryd rhan yn y gystadleuaeth: Cymru, Sbaen, yr Almaen, Denmarc, Croatia, Serbia, yr Eidal ac Wcráin. Bydd chwaraewyr ifanc gorau Ewrop yn cystadlu yn erbyn ei gilydd, gyda Chymru wedi'i dewis yng Ngrŵp A ochr yn ochr â Sbaen, yr Almaen a Denmarc.
Dywedodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Cymru a phrif hyfforddwr y tîm Dan 19, Chris Gunter:
“Rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n cael cefnogaeth dda iawn yn y stadiwm ac ym mhobman arall. Rydyn ni’n falch iawn y bydd S4C yn dangos ein gemau. Mae’n rhoi cyfle i gefnogwyr sydd ddim yn gallu gwneud hi i’r stadiwm ddilyn ein taith ni.”
Wrth siarad â Sgorio, disgrifiodd Craig Bellamy, prif hyfforddwr tîm cenedlaethol dynion Cymru, y gystadleuaeth fel “twrnamaint anhygoel – i ni allu ei chynnal ac i’n chwaraewyr ifanc chwarae yn erbyn yr elit.”
Ychwanegodd:
“Wrth wylio Chris o bell, mae’n rhaid i mi fod yn onest, mae o wedi bod yn wych. Dwi’n gweld rhywun sydd eisiau gwella a sy’n caru gweithio gyda chwaraewyr ifanc, ac mae yna rai chwaraewyr ifanc da iawn yno fydd yn elwa o hyn.”
Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:
“Mae gan S4C ymrwymiad hirhoedlog i bêl-droed yng Nghymru, ac rydym wrth ein bodd i gynnig darllediad o gemau Cymru yn y twrnamaint yma sy’n cael ei gynnal ledled Gogledd Cymru yr haf hwn.
“Gyda sylwebaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael, rydym am wneud yr holl gyffro yn hygyrch i gynulleidfaoedd dros y wlad, gan barhau i gefnogi ac arddangos pêl-droed Cymru ar bob lefel.”
Bydd darllediadau S4C o Bencampwriaeth Ewrop D19 UEFA 2026 yn cael eu cynhyrchu gan Rondo Media.
Nodiadau i Olygyddion
Gemau:
Cymru v Sbaen – Dydd Sul 28 Mehefin, 18:00
Cymru v Yr Almaen – Dydd Mercher 1 Gorffennaf, 20:00
Denmarc v Cymru – Dydd Sadwrn 4 Gorffennaf, 14:00
Rownd gyn-derfynol: Dydd Mercher 8 Gorffennaf (16:30 a 19:00)
Rownd derfynol: Dydd Sadwrn 11 Gorffennaf, 19:00