
22 Mehefin 2026
Mae Effi o Blaenau wedi profi i fod yn boblogaidd gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a gweddill y DU, yn dilyn ei rhyddhau i ganmoliaeth arbennig penwythnos hwn, gan sicrhau’r agoriad mwyaf erioed i ffilm Gymraeg yn y swyddfa docynnau. Gyda nifer cyfyngedig o ychydig dros 30 o sinemâu yn ei dangos, torrodd y ffilm y record sydd wedi cael ei dal gan y ffilm Gwledd, a ryddhawyd yn 2022. Bydd Effi o Blaenau nawr yn ehangu ei dangosiadau gyda chyfle o hyd i'w gwylio ar draws Cymru ac mewn dinasoedd ledled y DU.
Wedi'i chyfarwyddo gan Marc Evans (Mr Burton), mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc sy'n dysgu pris personol ein diffygion cymdeithasol ni, gyda pherfformiad blaenllaw gan yr actor sy’n prysur gwneud enw i’w hun, Leisa Gwenllian, sydd wedi derbyn adolygiadau gwych am ei hymddangosiad cyntaf mewn ffilm. Mae Effi o Blaenau wedi'i hail-ddychmygu ar gyfer y sgrin fawr ac yn ddehongliad sinematig Marc Evans o fonodrama Gary Owen, Iphigenia in Splott, sydd ei hun yn glasur theatrig modern sydd wrthi’n cael ei lwyfannu'n helaeth ledled Cymru, Lloegr ac yn rhyngwladol. Cynhyrchir y ffilm gan Branwen Cennard. Y cynhyrchwyr gweithredol yw Catrin Cooper a Gwenllian Gravelle.
Crynodeb: Mae'r ffilm yn dilyn Effi, merch ifanc sy'n awyddus i ddianc o dref lle mae'r tafarndai ar gau, y swyddi wedi diflannu, a'i nain yn gweithio shifftiau nos yn y siop sglodion leol dim ond i allu byw. Mae cyfarfyddiad ar hap mewn clwb nos yn Llandudno gyda milwr o’r enw Lee sydd wedi'i glwyfo yn agor drws i rywbeth gwell. Am eiliad, mae Effi yn cael cipolwg ar fywyd nad oedd hi erioed wedi'i ddychmygu - ond mae'r realiti sy'n dilyn yn llawer anoddach.
Wrth iddi wynebu'r dyfodol fel darpar fam sengl, ddi-waith, mae stori Efffi yn datgelu argyfwng cymdeithasol llym: system gyda rhy ychydig o wardiau mamolaeth, rhy ychydig o fydwragedd, a gormod o ddewisiadau amhosibl wedi'u gwneud allan o angenrhaid yn hytrach na gofal.
Dywedodd Adam Price AS, y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
"Mae'r disgwyliad cyn rhyddhau Effi O Blaenau, a llwyddiant y swyddfa docynnau y penwythnos hwn, yn nodi eiliad ddiwylliannol bwerus i ffilm Gymraeg. Mae'n dangos cryfder ein talent greadigol a'r awydd a'r gwerthfawrogiad cynyddol am straeon sydd wedi'u gwreiddio yng Nghymru. Fel y cynhyrchiad cyntaf a gefnogir gan Cymru Greadigol ochr yn ochr ag S4C, mae'n gosod cynsail cyffrous - ac edrychwn ymlaen at weld y cydweithrediad hwn yn parhau i ffynnu. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran!"
Meddai Gwenllian Gravelle, Pennaeth Ffilm a Drama S4C:
"Rwy'n falch iawn bod Effi o Blaenau wedi cyfareddu cynulleidfaoedd. Mae'n gam cyntaf cyffrous i ddod â thon newydd o straeon Cymraeg i sgriniau rhyngwladol ehangach."
Mae Effi o Blaenau yn gyflwyniad S4C o gynhyrchiad Tarian, wedi’i datblygu a’i ariannu gan S4C, a’i chyd-ariannu gan Cymru Greadigol. Y dosbarthwr theatrig yn y DU yw MetFilm.
Bydd Effi o Blaenau yn cael ei darlledu ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer yn ddiweddarach yn y flwyddyn.