
29 Gorffennaf 2026
Y gantores a’r gyflwynwraig o Gaerdydd Aleighcia Scott fydd prif gyflwynydd Gwalia Aleighcia, cyfres ddogfen newydd ar S4C. Yn ymddangos ar y sgrin ym mis Medi, bydd Aleighcia – yng nghwmni ei chydymaith sy’n ymddiddori mewn hanes, Luke Davies – yn teithio Cymru benbaladr yn dysgu am hanes ein gwlad a’n caneuon traddodiadol, gan berfformio gydag artistiaid amrywiol ar hyd y daith.
Fe fydd Aleighcia yn cael ei derbyn i Orsedd Cymru drwy anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yr wythnos neaf.
Wedi ei magu yng Nghaerdydd, ei mam yn Gymraes a’i thad yn hanu o Jamaica, dechreuodd y cyflwynydd Radio Wales ddysgu Cymraeg gwta bedair blynedd yn ôl ac ers hynny mae wedi dod yn wyneb cyfarwydd i wylwyr S4C fel un o’r beirniaid ar raglen Y Llais. Nawr, â’i Chymraeg yn mynd o nerth i nerth, mae Aleighcia’n camu i rôl cyflwynydd ar gyfres bedair-rhan newydd S4C, Gwalia Aleighcia.
Meddai Aleighcia: "Mae’n fraint enfawr bod yn rhan o’r rhaglen hon ac i gael teithio drwy Gymru hardd! Ces i ddysgu cymaint o bethau newydd am Gymru, ei cherddoriaeth a’i hanes, ac alla i ddim aros i rannu hynny gyda phawb fydd yn gwylio!"
O frwydr yr iaith Gymraeg i chwedl Cantre’r Gwaelod, ac o ‘Pam Fod Eira yn Wyn’ gan Dafydd Iwan i ‘Llongau Caernarfon’ a ‘Marwnad yr Ehedydd’, yng nghwmni Aleighcia a Luke cawn ddysgu am hanes cymunedau o bob cwr o Gymru, a’r caneuon adnabyddus sy’n deillio o’r hanesion. Ymhlith yr artistiaid fydd yn sgwrsio ac yn perfformio gydag Aleighcia ar y gyfres mae Jacob Elwy, Gwilym Bowen Rhys, Angharad a Delyth Jenkins ac Osian Huw.
Bydd y gyfres o bedair rhaglen yn dod o dan cyfresi S4C sy’n annog ac wedi ei hanelu at siaradwyr newydd. Gydag apêl eang, bydd y gyfres yn gwneud defnydd o Gymraeg sy’n addas ar gyfer pawb, gan gynnwys dysgwyr a siaradwyr newydd.
Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C:
“Wedi ei magu ar aelwyd ddi-gymraeg yng Nghaerdydd ond yn prysur ddod i siarad Cymraeg, roedd Aleighcia yn awyddus i ddysgu mwy am hanes ein gwlad ac yn benodol am y caneuon sy'n rhan o ddiwylliant Cymru. Datblygodd hyn yn naturiol iawn i mewn i'r gyfres Gwalia Aleighcia. Yn ystod y rhaglenni fe gawn ni fel gwylwyr ymuno a hi ar ei thaith gerddorol, gan ail-ymweld neu ddysgu o’r newydd am yr hanesion sydd wedi rhoi lle i rai o ganeuon poblogaidd Cymru, a mwynhau clywed Aleighcia yn eu canu nhw.
“Mae wedi bod yn bleser dilyn taith iaith Aleighcia wrth i’w Chymraeg ddatblygu bron o flaen ein llygaid ar Y Llais. Mae Aleighcia wedi ymroi yn llwyr i fyd a diwylliant y Gymraeg, ac yn ysbrydoliaeth i unrhyw un sy’n ystyried dysgu’r iaith. Gobeithio bydd y gyfres hon yn apelio at siaradwyr newydd yn ogystal â chynulleidfa ehangach.”
Mae Gwalia Aleighcia yn dechrau ar S4C ym mis Medi 2026.