Y Wasg

Y Wasg

Animeiddiad newydd sbon i blant bach - Egin Bach i'w gweld am y tro cyntaf ar S4C ym mis Hydref

17 Hydref 2025

Bydd cyfres animeiddio Gymraeg newydd sy'n annog cynulleidfaoedd ieuengaf Cymru i ddarganfod rhyfeddodau natur a'r byd o'u cwmpas yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar S4C ar 21 Hydref.

Mae’r gyfres o’r enw Egin Bach, wedi'i chreu gan stiwdio animeiddio Bumpybox o Gaerdydd, ac wedi derbyn cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Mae Cronfa Cynnwys Masnachol S4C hefyd wedi buddsoddi yn y gyfres gyffrous hon gyda Claire Urquhart o'r Gronfa yn nodi y bydd y buddsoddiad yn caniatáu i Bumpybox allforio'r animeiddiad gobeithiol, cartrefol hwn i sianeli a phlant ledled y byd. Bydd y gyfres ar gael yn Gymraeg ar S4C gyda chynlluniau ar waith ar gyfer dosbarthiad rhyngwladol.

Mae Egin Bach yn cynnwys 26 pennod pum munud o hyd ac yn dilyn anturiaethau mawr chwe egin fforiwr bach wrth iddynt lywio anialwch helaeth gardd gefn.

Mae pob pennod yn canolbwyntio ar agwedd wahanol ar y byd natur- o flodau a hadau i bryfed, creaduriaid gardd, a'r elfennau fel glaw a heulwen - gan ysbrydoli plant i werthfawrogi harddwch a phwysigrwydd natur yn agos at adref.

Disgwylir i lwyddiant y gyfres wella cynaliadwyedd hirdymor a chyrhaeddiad byd-eang y cwmni.

Meddai Sioned Geraint, Comisiynydd Cynnwys Plant a Dysgwyr S4C:

 "Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am ysbrydoli chwilfrydedd a chreadigrwydd yn ein gwylwyr ieuengaf, ac mae Egin Bach yn gwneud yn union hynny. Mae'r gyfres yn dathlu hud y byd naturiol trwy lygaid plentyn, ac rydym yn falch o gefnogi cynhyrchiad cartref sy'n cyfuno animeiddio hardd ag adrodd straeon addysgiadol.

 "Mae'n enghraifft wych o sut y gall cynnwys Cymraeg sbarduno dychymyg a chysylltiad, yn lleol ac yn fyd-eang."

Egin Bach

Meddai Sam Wright, cynhyrchydd a chyfarwyddwr Bumpybox:

"Rydym wrth ein bodd i weld Egin Bach yn ymddangos am y tro cyntaf ar S4C, ac rydym yn gobeithio y bydd yn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o blant Cymru i archwilio'r awyr agored.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Sioned a'r tîm yn S4C am eu cefnogaeth i ddod â'r gyfres yn fyw. Fel cwmni o Gymru, mae cydweithio ag S4C wedi bod yn un o'n huchelgeisiau ers amser maith. Er ein bod wedi creu cynnwys Cymraeg o'r blaen, mae S4C yn cynrychioli calon adrodd straeon Cymru.

"Hoffem ddiolch hefyd i ITV, a fydd yn darlledu Tiny Buds y fersiwn Saesneg yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf ar S4C, yn ogystal â'r timau yng Nghymru Greadigol ac S4C Rhyngwladol am eu cefnogaeth amhrisiadwy i wireddu'r prosiect.

"Mae Egin Bach yn brosiect arbennig o ystyrlon i ni, gan ei fod yn esblygiad o'r syniad a ddaeth â'n tîm at ei gilydd am y tro cyntaf bron i 15 mlynedd yn ôl."

Meddai Joedi Langley pennaeth dros dro Cymru Greadigol:

"Mae Bumpybox wedi creu gwaith anhygoel yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o weithio ar ffilm nodwedd arobryn Kensuke's Kingdom i ddatblygu Triceratops anwes 3D ar gyfer My Petsaurus ar gyfer CBeebies a llawer mwy.

"Rwy'n falch iawn bod y tîm, gyda chefnogaeth ariannol gan Gymru Greadigol, wedi gallu datblygu'r cysyniad ac yna cael mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen i greu'r gyfres animeiddiedig wych hon i blant sydd wedi'i datblygu yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddynt ym mhennod gyffrous nesaf eu taith."

Bydd Egin Bach yn cael ei dangos am y tro cyntaf ar S4C ar 21 Hydref a bydd ar gael i'w ffrydio ar S4C Clic a BBC iPlayer ar ôl darlledu.