
28 Hydref 2025
Y Deis yw rhaglen gwis adloniannol newydd sbon S4C sydd ar fin cychwyn ffilmio yn Gymraeg yn Stiwdio Enfys, Caerdydd, ac mae S4C yn falch o gyhoeddi bod darlledwr gwasanaeth cyhoeddus Iwerddon, TG4, wedi sicrhau’r hawliau ar gyfer y fformat newydd o’r rhaglen adloniannol.
Mae hyn yn cynnig partneriaeth cynnwys arloesol rhwng y ddau ddarlledwr ac mae’r cyd-weithio yn nodi carreg filltir arwyddocaol hyderus arall ymhlith darlledwyr Celtaidd.
Bydd fersiwn iaith Wyddeleg, An Deis, yn ffilmio yn syth wedi cwblhau’r Gymraeg a hynny hefyd yn y stiwdio yng Nghaerdydd. Mi fyddant yn ffilmio fersiwn beilot yn yr iaith Saesneg ar gyfer diddordeb rhyngwladol. Yn ystod y ffilmio bydd cyfarwyddwr aml-gamera o Gymru, Geraint Rhys Lewis, yn cael ei gysgodi gan gyfarwyddwr Gwyddeleg ei iaith fydd yn ennill profiad ychwanegol mewn cyfarwyddo stiwdio aml-gamera.
Mae Y Deis yn profi gwybodaeth gyffredinol pobl wrth iddyn nhw geisio ennill arian mawr – gydag ychydig o lwc y deis!
James Williams fydd yn cyflwyno Y Deis ar S4C. Mae James yn gyfarwydd â chyflwyno rhaglenni radio ac yn gyflwynydd prysur iawn adeg brecwast ar BBC Radio Wales, a dyma fydd y tro cyntaf iddo gyflwyno rhaglen adloniannol ar S4C. Bydd y fersiwn Wyddeleg yn cael ei gynhyrchu gan Tyrone Productions wnaeth ddod â fformat ‘Who Wants to be a Millionaire’ i’r Iwerddon, gyda’r newyddiadurwraig a’r gyflwynwraig Eibhlín Ní Chonghaile yn cyflwyno.
Slam Media ydy’r cwmni cynhyrchu sydd wedi creu a datblygu’r syniad gwreiddiol hwn. Gavin Cox, aelod o dîm creadigol Slam wnaeth ei greu wedi’i ysbrydoli gan ei ddiweddar dad oedd yn gynllunydd gemau ar gyfer y diwydiant peiriannau ‘ffrwyth’ / fruit machines.
Mae’r Deis yn addas ar gyfer y teulu cyfan gan gyfuno sgil, strategaeth ac ychydig bach o lwc. Calon y man chwarae yw’r peiriant deis gall ddylanwadu ar ganlyniadau mewn modd sydd yn cyfrannu at y cyffro. Ond heb wybodaeth ac atebion cywir, nid pawb fydd yn gallu manteisio ar lwc rolio’r deis.
Bydd tri tîm o ddau chwaraewr yn mynd ben ben â’i gilydd ac yn trio mynd ymlaen i’r rowndiau canlynol, gyda’r tîm â’r swm mwyaf o arian yn y banc yn cyrraedd y rownd derfynol lle bydd y tîm yn wynebu cwestiynau yn erbyn y cloc i geisio hawlio’r Jacpot.
Mae dwy raglen arbennig yn cael eu ffilmio ar gyfer y Nadolig yn ogystal, gyda rhai o wynebau mwyaf cyfarwydd S4C yn cystadlu gyda’i gilydd.
Mae’r Deis wedi ei gynhyrchu gyda chefnogaeth Media Cymru ynghŷd â Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.
Croesawodd Prif Swyddog Cynnwys S4C, Llion Iwan, y cydweithrediad:
“Mae’r bartneriaeth hon â TG4 yn garreg filltir falch arall i S4C ac i gynnwys Cymraeg yn ei gyfanrwydd. Mae’n dangos bod fformatau unigryw, cartrefol yn meddu ar y gallu gwirioneddol i deithio - ac rydym wrth ein boddau bod y rhaglen hon yn dod o hyd i gynulleidfa newydd yn Iwerddon trwy ein ffrindiau yn TG4.”
Meddai Beth Angell, Pennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C:
“Rydym ni’n hynod gyffrous i ddod â Y Deis i S4C – mae’n gwis blaengar ac unigryw gydag egni anhygoel ac ochr chwareus iddi. Mae hi wedi bod yn bleser i’w datblygu hefo Slam Media, a dyn ni’n ofnadwy o falch i allu cyd-weithio arni hefo TG4 er mwyn rhoi bywyd iddi yn Gymraeg ac yn Wyddeleg a fedra i ddim aros i gael ymateb pobl iddi.”
Meddai Laura Ní Cheallaigh, Cyfarwyddwraig Comisiynau TG4:
“Rydym wrth ein boddau i allu cyflwyno fformat newydd ffres ac adloniannol i gynulleidfaoedd TG4. Mae datblygu a chefnogi cynnwys gwreiddiol yn yr ieithoedd Celtaidd yn flaenoriaeth allweddol i ni, ac mae’r cyd-weithio hwn gyda S4C yn enghraifft wych o bartneriaeth greadigol ar waith. Fe wnaethom ni weld y potensial yn y fformat hwn yn syth ac yn edrych ymlaen i gyflwyno An Deis i gynulleidfa Gwyddelig yn ystod Gwanwyn 2026 ar TG4.”