

11 Medi 2025
Mae S4C yn “fwy na sianel deledu” – dyna’r neges wrth i’r darlledwr lansio’i strategaeth am y bum mlynedd nesaf.
Gyda phwyslais ar ddyfodol digidol, mae lansiad y strategaeth yn digwydd yr un pryd â darllediad o Yr Alwad – y ddrama fertigol gyntaf i S4C ei chomisiynu yn benodol ar gyfer llwyfan TikTok.
Yn ei strategaeth, mae S4C yn pwysleisio ei phrif bwrpas o ‘ddangos ein byd drwy’r Gymraeg’ gan addo ‘ysbrydoli, diddanu ac adlewyrchu Cymru gyda chynnwys gwych i bawb’.
Mae’n amlinellu’r camau pellach bydd yn cymryd dros y pum mlynedd er mwyn:
Dros y cyfnod nesaf bydd S4C yn ail-ddiffinio’i modd gomisiynu a dosbarthu cynnwys er mwyn sefyll allan mewn marchnad gystadleuol – gan fanteisio ar ei darpariaeth unigryw Gymraeg a Chymreig.
Bydd yn cofleidio’r cyfleoedd i wasanaethu cynulleidfaoedd gwahanol ar draws amryw o blatfformau – gan symud yn hyderus at fod yn wasanaeth digidol-yn-gyntaf. Fel cam cyntaf bydd S4C yn galw wythnos hon am geisiadau comisiwn cynnwys newydd YouTube ar gyfer cynulleidfaoedd 25-44 oed gyda buddsoddiad o bron i £1m.
Mae hefyd yn addo cydweithio â’r sector cynhyrchu ac eraill i ehangu ei heffaith y tu hwnt i’r sgrîn – gan ddwysáu ei chyfraniad at dwf yr iaith, diwylliant a’r economi greadigol ledled Cymru.
Mae’r strategaeth yn cael ei chyhoeddi mewn digwyddiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, ar nos Fercher (10 Medi) yng nghwmni rhai o’r partneriaid hynny gan gynnwys gwleidyddion, cwmnïau ar draws y sector gynhyrchu, rhanddeiliaid cenedlaethol a staff.
Fel rhan o’r newid ehangach mewn arferion gwylio, daw 14% o holl oriau gwylio S4C drwy BBC iPlayer, S4C Clic ac YouTube, ac mae’r gyfran honno’n cynyddu’n flynyddol. Mae traean o’r gwylio gan bobl rhwng 16-44 oed eisoes yn cael ei wneud drwy blatfformau digidol.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Weithredwr S4C:
“Mae darlledwyr cyhoeddus ar draws y byd yn wynebu heriau digynsail wrth i arferion gwylio newid.
“Ond gyda phob her, daw cyfle i arloesi, a thrwy gydweithio â’n partneriaid yn y sector cynhyrchu, bydd ein strategaeth newydd yn sicrhau bod S4C ar flaen y gad mewn cyfnod o newid ar draws y diwydiant.
“Dwi’n falch o allu rhannu’r strategaeth hon, sy’n amlinellu ein hymrwymiad i wasanaethu ein cynulleidfaoedd amrywiol, i fod yn gatalydd i ffyniant economaidd ac i chwarae rôl flaenllaw yn nyfodol y Gymraeg fel iaith fyw.”
Ychwanegodd Delyth Evans, Cadeirydd Bwrdd S4C:
“Pan gafodd S4C ei sefydlu, ei bwriad oedd rhoi llwyfan i’r Gymraeg yn y cyfryngau cyfoes gan ddiogelu’r iaith at y dyfodol.
“Mae hynny’r un mor wir heddiw, ond mae’r cyfryngau cyfoes yn wahanol iawn yn 2025 o’u cymharu â 1982, gyda llai yn gwylio cynnwys ar deledu llinol a mwy yn gwneud defnydd o gyfryngau digidol.
“Un o’m mlaenoriaethau i yw sicrhau bod S4C yn cynnal ac ehangu’i chynulleidfaoedd, drwy dyfu amlygrwydd y sianel ar draws ystod eang o blatfformau.
“Dwi’n ffyddiog, gyda thîm arloesol o bobl yn gweithio i S4C, ac o fewn y sector darlledu ehangach, mai dyma ddechrau ar bennod newydd, gyffrous yn hanes S4C.”