Y Wasg

Y Wasg

O Gymru i’r Unol Daleithiau: darganfod America drwy lygaid y Pitts

4 Gorffennaf 2026

Ar Ddiwrnod Annibyniaeth America – Freedom 250 – mae S4C yn falch o gyhoeddi comisiwn cyfres newydd fydd yn edrych ar America heddiw trwy lygaid dau Gymro chwilfrydig.  

Yn y gyfres Pitts Stop America, bydd y brodyr Iwan a Hywel Pitts yn teithio ar draws yr Unol Daleithiau mewn RV er mwyn profi sut le ydi America yn ystod un o'i chyfnodau mwyaf heriol. Wrth deithio o Washington i Philadelphia ac Efrog Newydd bydd y ddau yn cyfarfod Americanwyr o bob ochr i'r sbectrwm wleidyddol ac yn pryfocio â chwestiynu yn eu ffordd ddihafal eu hunian.

Fel cymaint o Gymry mae gan Iwan a Hywel gyndeidiau yn America ac wrth chwilio am eu hanes mae'n gyfle i ofyn a ydi Ameica heddiw yn cynnig yr un gobaith a bywyd newydd ag yr oedd ganrif yn ôl?

Mae Hywel Pitts yn adnabyddus i wylwyr S4C fel aelod o’r grŵp cerddorol a chomedi Cabarela, sy’n teithio Cymru gyda’u sioeau llawn hiwmor ac yn creu cynnwys poblogaidd ar-lein. Mae'n bosib iawn bod llais ei frawd, Iwan, yn gyfarwydd i wylwyr S4C gan mai ef yw llais Orangutan mwyaf poblogaidd Cymru – Gareth yr Orangutan.

Meddai Hywel tra’n ffilmio yn yr UDA:

"Mae'r ychydig ddyddiau cyntaf wedi bod yn hollol wyllt. Cyrraedd Efrog Newydd a gweld maint y lle am y tro cyntaf oedd yn syfrdanol, ond y peth sydd wedi aros gyda fi fwyaf hyd yn hyn yw pa mor groesawgar mae pawb wedi bod. Dan ni wedi cael cyfle i gwrdd â phobl anhygoel, gweld llefydd na fydden ni byth wedi cael mynediad iddyn nhw fel twristiaid – fel y Jim Henson Creature Shop – a dechrau darganfod America go iawn, tu hwnt i'r stereoteipiau.

"Wrth i ni deithio ymlaen i Washington DC, Philadelphia a Scranton, dwi'n edrych ymlaen at weld beth arall sydd gan y wlad yma i'w gynnig. Mae hi'n heriol, yn gyffrous ac weithiau'n hollol wallgof, ond mae'n fraint cael gwneud y daith yma a chael cipolwg ar fywyd yn America heddiw – yn y dinasoedd mawr, y trefi llai ac ar hyd y ffyrdd rhyngddyn nhw. 

"Os yw'r dyddiau cyntaf yma'n unrhyw arwydd, dw i'n meddwl bod y gyfres am fynd â phobl ar daith fydd yn gwneud iddyn nhw chwerthin, ond hefyd gweld ochr wahanol i'r Unol Daleithiau."

Meddai Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbennig S4C:

“Mae'r Unol Daleithiau yn y newyddion yn ddyddiol a gwleidyddion yn trin a thrafod yn ddiddiwedd. Bydd y gyfres hon yn edrych ar America drwy lygaid pobl gyffredin gyda chwestiynnau pryfoclyd a lot o hiwmor!”

Meddai Ben Smith, Cyfarwyddwr Creadigol Tŷ’r Ddraig:

"Roedd cychwyn ar y prosiect cyntaf o'n pecyn Tendr Ffeithiol bob amser yn mynd i fod yn gyffrous, ond mae gweithio ar brosiect cyntaf sydd am fod yn gyfres mor uchelgeisiol sy'n gwthio ffiniau'r genre rhaglenni taith, hyd yn oed yn fwy cyffrous. Allwn ni ddim aros i rannu'r chwerthin a'r canfyddiadau y bydd Iwan a Hywel yn eu gwneud ar eu taith ar Pitts Stop America."

Bydd Pitts Stop America yn gyfres o bedair rhaglen, wedi’i chomisiynu fel rhan o dendr cynnwys ffeithiol ddyfarnwyd i gwmniau cynhyrchu Tŷ’r Ddraig a Captain Jac yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd ar gael ar S4C ac ar blatfformau digidol y sianel yn ystod y gaeaf.