Y Wasg

Y Wasg

“Profiad arbennig” i Mark Lewis Jones sy’n ymddangos yn Y Golau: Dŵr, drama newydd afaelgar gyda chast rhagorol

11 Medi 2025

Mae drama ddirgelwch llwyddiannus S4C, Y Golau yn dychwelyd am ail gyfres afaelgar - Y Golau: Dŵr - gan ddarlledu am y tro cyntaf ar 14 Medi 2025. Mae’r dilyniant hir ddisgwyliedig  yn codi tensiwn y ddrama i lefel newydd, gan dyrchu’n ddyfnach i galon dywyll pentref dychmygol Llanemlyn.

Un o brif gymeriadau Y Golau: Dŵr yw’r actor o Rosllannerchrugog, Mark Lewis Jones, sydd wedi bod yn brysur yn gweithio ar lu o brosiectau yn Gymraeg a Saesneg yn ddiweddar. Dywed Mark ei fod bob amser yn fraint i berfformio yn ei fam iaith:

“Roedd o’n brofiad arbennig - roedd sir Gaerfyrddin yn gefnlen anhygoel a’r sgript a chast yn rhagorol. Alla i ddim dymuno am fwy.”

Mae’r stori’n dychwelyd i bentref Llanemlyn, lle mae cynllun dadleuol i ehangu’r gronfa ddŵr yn deffro hen densiynau. Mae’r newyddiadurwr ifanc, Caryl Huws, yn cael ei hamsugno i fewn i we gymhleth o frâd personol, a dirgelion tywyll sy’n codi amheuon newydd am garcharu Rhys Owen a gyhuddwyd o lofruddio ei gefnder Llŷr, yn ystod protest yn 1995.

Ymhlith y cast disglair mae Siân Reese Williams (Craith, Y Sŵn, Y Gwyll) fel Caryl Huws; Mark Lewis Jones (Y Sŵn, The Crown, Dal y Mellt) fel Rhys Owen; Nia Roberts (Pren ar y Bryn, Yr Amgueddfa, Craith) fel Eve Davies; a Robert Glenister (Sherwood, The Night Caller, Hustle) fel Robert Davies.

Siân Reese Williams yw’r unig actor sy’n ailgydio yn ei rôl o gyfres wreiddiol Y Golau. Y tro hwn, mae meddylfryd ei chymeriad yn symud o fod yn ddioddefwr wedi’i chamgyhuddo, i rywun sy’n benderfynol o ddatguddio’r gwirionedd.

“Roedd yn arbennig iawn cael dychwelyd i fyd Y Golau, er bod y gyfres hon yn sefyll yn llwyr ar ei phen ei hun” meddai Siân. “Mae Caryl mewn lle hollol wahanol erbyn hyn - mae hi’n ailadeiladu ei bywyd, yn hyfforddi i fod yn newyddiadurwr, ac yn ceisio gwneud synnwyr o’r byd drwy lygaid gwirionedd a chyfiawnder.

“Mae Caryl yn mynd drwy math o fetamorffosis, ac roedd hynny’n hynod ddiddorol i’w chwarae. Mae’n rhywbeth dwi’n credu bod llawer o bobl ei hoedran hi’n ei brofi, ac nid yw’n rhywbeth dy’n ni’n gweld yn aml ar y sgrin - ro’n i wir yn gwerthfawrogi’r cyfle i’w phortreadu.

“Roedd dychwelyd i’w chwarae eto, yn enwedig gyda chast a stori newydd sbon, yn teimlo’n gyfarwydd ond ar y llaw arall yn hollol ffres.”

Dyma’r tro cyntaf i Robert Glenister ymddangos mewn cynhyrchiad Cymraeg yn ei yrfa hir a nodedig.

“Dwi wastad wedi edmygu cryfder drama Gymraeg o bell, felly pan ddaeth y cyfle hwn, nes i neidio amdano,” meddai Glenister.

“Dyma’r tro cyntaf i mi weithio ar ddrama Gymraeg. Doedd dim rhaid i mi siarad Cymraeg fy hun, ond roedd natur ddwyieithog y cynhyrchiad yn andros o ddiddorol - ac yn teimlo’n real. Mae’r stori’n afaelgar, y sgript yn siarp, a’r cast yn wych. Roedd hi’n bleser bod yn rhan ohono.”

Ymhlith y cast cefnogol mae Tom Rhys Harries fel Hari Breckon (sydd i’w weld yn fuan fel y prif rôl yn Clayface yn y ffilm DC sydd wrthi’n cael ei ffilmio), Maeve Courtier Lilley fel Mabli Davies Owen, Wyn Bowen Harries fel Bryn Owen, Mali Tudno Jones fel Megan Breckon, Matthew Gravelle fel Gareth Breckon, a Gillian Elisa fel Eunice.

Ysgrifennwyd y gyfres gan Regina Moriarty, gyda rhai penodau wedi’u llunio gan lenorion Cymreig blaenllaw - Siân Naiomi, Anwen Huws, Catherine Linstrum ac Angharad Elen.

Mae’r Uwch Gynhyrchydd Nora Ostler Spiteri wedi canmol y cydweithio fu gyda Long Story TV ac APC, a diolchodd i S4C, AMC+, Cymru Greadigol a Channel 4 am ddod â’r gyfres yn fyw, gan bwysleisio pa mor hapus oedd hi i allu dychwelyd i leoliadau ffilmio fel Llanymddyfri.

Roedd Y Golau gwreiddiol (2022) yn llwyddiant mawr o ran niferoedd gwylio gan dderbyn canmoliaeth yn eang fel drama noir afaelgar Gymraeg. Yn gyfuniad coeth o gyfrinachau teuluol, gwrthdaro gwleidyddol a dirgelwch atmosfferig, mae Y Golau: Dŵr yn cynnig cyfuniad rhagorol i adrodd straeon yn y Gymraeg.

Bydd Y Golau: Dŵr yn cael ei darlledu ar S4C am y tro cyntaf nos Sul, 14 Medi 2025 ac eto gydag is-deitlau ar y sgrin yn Saesneg ar y nos Fercher canlynol.

Gyda’i chyfuniad o dirluniau trawiadol, hanes cymhleth, a phlot llawn tensiwn, mae Y Golau: Dŵr yn addo bod ymhlith cyfresi drama fwyaf nodedig yr hydref. I gynulleidfaoedd sy’n dyheu am brofiad teledu deallusol, emosiynol, a chrefftus, dyma’r un i’w dilyn.

Cynhyrchir Y Golau: Dŵr gan Triongl, Long Story TV ac APC Studios ar gyfer S4C, mewn cydweithrediad ag AMC+, Channel 4 a Llywodraeth Cymru trwy Cymru Greadigol.

Mae’r chwe phennod o’r gyfres gyntaf - Y Golau - ar gael i’w gwylio nawr ar S4C Clic ac ar BBC iPlayer.

 

Noddir dramâu S4C gan Trafnidiaeth Cymru / Transport for Wales.