Y Wasg

Y Wasg

Rhyddhau delweddau o’r ffilm arobryn Y Crwydryn

17 Tachwedd 2025

Caiff y delweddau cyntaf o’r ffilm ddogfen newydd arobryn S4C, Y Crwydryn, eu rhyddhau heddiw. Bydd y ffilm – sydd eisoes wedi ennill canmoliaeth mewn sawl gŵyl ffilm – yn cael ei darlledu yn y Gymraeg, gydag isdeitlau Saesneg, ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer ar Ddydd San Steffan.

Yn y ffilm mae’r cyflwynydd Wil Tân, sy'n adnabyddus yng Nghymru fel canwr a hyrwyddwr cerddoriaeth gwlad Gymreig (diffoddwr tân oedd ei waith, yn y gorffennol), yn cychwyn ar bererindod i'r trefi bach gwledig ledled Cymru sy'n llawn cerddoriaeth gwlad a'i diwylliant. Dilynwn Wil wrth iddo sgwrsio a hel atgofion gyda chymeriadau lleol sy’n rhannu ei angerdd, mewn mannau lle'r oedd capeli ar un adeg yn galon cymunedau, bellach wedi'u disodli gan dafarndai lle mae caneuon cariad, colled a thorcalon yn ffynnu.

Wedi'i ysgogi gan salwch ei wraig Ceri, teimlo’i lais yn pylu a chysgod marwoldeb ei ffrind gorau Pete, mae sgyrsiau Wil gyda'r cyd-gerddorion a chyd-eneidiau yma’n datblygu fel penillion cân gwlad: yn archwilio heneiddio, colled, caethiwed a llawenydd bregus dod o hyd i gariad yn hwyr mewn bywyd.

Ar gynfas sgrin lydan ffilm Western, mae'r ffordd yn dod yn llwyfan ac yn gyffesfa, lle mae cerddoriaeth yn disodli geiriau na all dynion eu mynegi. Wedi'i hangori gan ddau gytgan atgofus — Carrickfergus gyda Pete, a Crwydryn i'w fam — a llawer o hiwmor crogbren, mae'r ffilm yn fyfyrdod ar wrywdod, distawrwydd a'r ffyrdd y mae cân yn dod yn darian ac yn ildiad.

Bu’r ffilm arbennig, ling-di-long yma yn llwyddiant ysgubol ymhlith gwyliau ffilm eleni, gan ennill pum gwobr yn cynnwys y Ffilm Ddogfen Nodwedd Orau yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Bournemouth a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Rohip. Bu’n rownd derfynol Gŵyl Ffilm Folkestone a Gŵyl Ffilm By The River, cafodd enwebiad yng Ngŵyl Ffilm Bydol Cannes a cafodd ei dewis yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol IndieLisboa.

Meddai Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol S4C: “A hithau’n Fis  Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl Dynion, nid oes amser gwell i gyhoeddi manylion yr archwiliad hardd a thyner hwn o rai o bynciau mwyaf bywyd. Gall dynion hŷn ei chael hi’n anodd siarad yn agored am golled, galar a chariad, ond fel mae’r ffilm hon yn ei ddangos mor dyner, gall cerddoriaeth gwlad agor drysau i brofiadau mwyaf dwys pobl.”

“Rydym yn hynod falch o’r ymateb gan feirniaid ledled y byd i’r ffilm, ac yn gyffrous iawn i’w rhannu gyda chynulleidfaoedd yma yng Nghymru, y Nadolig hwn.”

Meddai’r cynhyrchydd Gwion Tegid: “Rydym yn hynod falch o’r ffordd y mae Y Crwydryn wedi cael ei dderbyn yn rhyngwladol. O’r cychwyn cyntaf, ein nod oedd gwneud ffilm Gymreig a oedd yn ymdrin â themâu cyffredinol — cariad, colled, cyfeillgarwch a gwydnwch — ac mae wedi bod yn galonogol gweld y negeseuon hynny’n atseinio mor eang.

“Rwy’n ddiolchgar iawn i S4C ac i Llinos Wynne am roi’r amser a’r ymddiriedaeth i ni i adael i’r stori hon anadlu a dod o hyd i’w rhythm ei hun; yr amynedd honno yw’r hyn sy’n caniatáu i raglen ddogfen ddod yn fyw go iawn. Ac mae fy niolch o galon yn mynd i Rhys Edwards, y mae ei sinematograffeg hardd yn cydio yn enaid y daith hon mor bwerus.”

Mae Y Crwydryn yn gynhyrchiad DocShed ar gyfer S4C. Fe’i comisiynwyd ar gyfer S4C gan Llinos Wynne, Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbenigol. Gwion Tegid yw'r Cynhyrchydd a Rhys Edwards y Cyfarwyddwr.