Y Wasg

Y Wasg

Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi — Stori Drasig a Newidiodd y Gyfraith am Byth

20 Hydref 2025

Bydd rhaglen ddogfen Gymraeg newydd, Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi yn cael ei darlledu ar S4C nos Fawrth hwn 21 Hydref, gan daflu goleuni newydd ar fywyd, cariad a gwaddol y fenyw olaf i gael ei chrogi ym Mhrydain.

 

Trwy gyfuniad o ffilmiau archif, mewnwelediad arbenigol a chyfraniadau emosiynol gan deulu Ruth ei hun, mae’r rhaglen yn archwilio bywyd cythryblus menyw a fu’n ddioddefwraig, a’i marwolaeth wnaeth helpu i drawsnewid cyfiawnder ym Mhrydain.

 

Ganwyd Ruth Ellis yn y Rhyl ym 1926, ac erbyn y 1950au roedd yn byw yn Llundain ac yn reolwraig clwb nos - menyw annibynnol, uchelgeisiol ac o flaen ei hamser. “Roedd hi’n bopeth nad oedd cymdeithas yn barod i’w dderbyn,” meddai’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones, a gyfarwyddodd y ddrama A Cruel Love am ei bywyd fu ar ITV yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Ond y tu ôl i’r golau disglair a’r partïon nodedig roedd poen ac erledigaeth. Roedd ei phlentyndod yn un dreisgar o du ei thad, ac fel oedolyn cafodd ei charcharu mewn perthynas stormus a threisgar gyda’r gyrrwr rasio David Blakely. Dechreuodd eu perthynas yn llawn angerdd a nwyd ond buan trodd yn genfigen, trais a digalondid.

 

“Roedd ochr dywyll, dreisgar i’w perthynas,” eglura Lee Haven Jones. Mewn tap llais, gellir clywed Ruth yn dweud yn blwmp ac yn blaen: “David gave me a black eye.”

 

Ar Sul y Pasg 1955, y tu allan i dafarn y Magdala yn Hampstead, saethodd Ruth Ellis David Blakely bedair gwaith. Ei chyffes dawel - “O’n i’n bwriadu ei ladd o” – wnaeth greu sioc yn y llys a thrwy Brydain.

 

Er gwaetha’i dioddefaint a’r blynyddoedd o gam-drin, doedd y gyfraith ar y pryd ddim yn cydnabod hyn fel rhan o’i amddiffyniad. Ysgrifennodd y barnwr, Cecil Havers, yn ddiweddarach nad oedd Ruth yn haeddu cael ei chrogi. Ond fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref, Gwilym Lloyd George, “rhaid i’r gyfraith redeg ei chwrs.”

 

Dim ond pythefnos yn ddiweddarach, dienyddiwyd Ruth Ellis yng Ngharchar Holloway - y fenyw olaf i’w chrogi ym Mhrydain.

 

Achosodd ei marwolaeth ddicter cyhoeddus. Llofnododd dros 50,000 o bobl ddeiseb i achub ei bywyd, a bu ei hachos arwain yn uniongyrchol at gyflwyno’r amddiffyniad o gyfrifoldeb lleiedig (diminished responsibility) ym 1957 - newid a allai fod wedi achub ei bywyd. Mae ei theulu y mis hwn, yn gwneud cais am posthumous pardon iddi.

 

Meddai ei ŵyr, Stephen Beard: “Mae hi yn lofrudd, ond doedd hi ddim yn haeddu cael ei thynnu o’r byd hwn yn y ffordd y digwyddodd.”

 

Ychwanega ei wyres, Laura Enston: “Roedd Ruth yn trailblazer mewn bywyd, ac yn  trailblazer mewn marwolaeth – a dwi’n canfod cysur yn hynny.”

 

Meddai’r cyn-farnwr Nic Parry yn y rhaglen: “Oherwydd y tristwch mawr yn ei bywyd hi, mae newidiadau mawr iawn er gwell wedi digwydd yng nghyfraith Cymru a Lloegr - i gyd oherwydd beth ddigwyddodd i Ruth Ellis.”

 

Mae’r cyfarwyddwr Lee Haven Jones yn disgrifio stori Ruth fel “trasiedi - perthynas gariadus a drodd yn chwerw, enghraifft o gariad creulon. Dyna oedd hanfod y berthynas rhwng Ruth a David.”

 

Ychwanega Dr Nia Williams, Seicolegydd o Brifysgol Bangor: “Mae’r patrwm seicolegol hwnnw o ddychwelyd at berthynas greulon, yn anffodus, yn parhau hyd heddiw,” gan wneud stori Ruth yr un mor berthnasol ag erioed.

 

Saith deg mlynedd ar ôl ei marwolaeth, mae Ruth Ellis: Y Cariad a’r Crogi yn ail-ymweld ag un o achosion mwyaf dadleuol ac emosiynol hanes cyfraith Prydain. Trwy recordiadau prin, tystiolaeth gan y teulu, ac adlewyrchiad gan arbenigwyr, mae’r rhaglen yn gofyn sut y daeth menyw a alwyd gan y papurau newydd yn “The Platinum Blonde Killer” yn gatalydd i dosturi a newid.

 

Fel y dywed Nic Parry: “Mae newidiadau mawr iawn er gwell wedi digwydd oherwydd beth ddigwyddodd i Ruth Ellis.”