Y Wasg

Y Wasg

S4C i ddangos pob gêm Cymru yn fyw ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion a’r Chwe Gwlad D20, yn ogystal ag uchafbwyntiau estynedig o Bencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod

15 Hydref 2025

Mae S4C wedi cadarnhau cytundeb newydd pedair blynedd gyda Rygbi'r Chwe Gwlad, gan sicrhau darllediadau cynhwysfawr o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad o 2026 ymlaen.

Fel rhan o’r cytundeb, mi fydd S4C yn darlledu pob un o bum gêm Cymru yn fyw ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Dynion a’r Chwe Gwlad D20, yn ogystal ag uchafbwyntiau estynedig o bob gêm Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness y Menywod.

Daw’r cyhoeddiad wrth i S4C baratoi i ddangos gemau Cymru yng Nghyfres Cenhedloedd Quilter.

Dywedodd Sue Butler, Pennaeth Chwaraeon S4C:

“Fel Cartref Chwaraeon Cymru, rydym wrth ein bodd i gytuno ar y bartneriaeth newydd hon gyda Rygbi’r Chwe Gwlad, gan gryfhau ein hymrwymiad i ddarparu cynnwys rygbi yn y Gymraeg ar bob lefel.

"Yn ogystal â'n darllediadau byw o Gyfres Cenhedloedd Quilter, mae'r cytundeb hwn yn sicrhau bod ein cynulleidfa yn medru parhau i fwynhau rygbi o’r safon uchaf, o'r timau cenedlaethol i'r genhedlaeth nesaf."

Dywedodd Tom Harrison, Prif Weithredwr Rygbi Chwe Gwlad:

“Mae’r Chwe Gwlad yn un o’r achlysuron mwyaf poblogaidd yn y calendr chwaraeon, ac mae ganddo arwyddocâd diwylliannol i gefnogwyr yng Nghymru, felly rydym yn falch o barhau i weithio gydag S4C i ddarparu darllediadau Cymraeg am ddim o’r Bencampwriaeth am y pedair blynedd nesaf.

“Rydym wedi ymrwymo i dwf Chwe Gwlad y Menywod, yn ogystal â’n cystadleuaeth llwybr lwyddiannus; y Chwe Gwlad dan 20, ac mae’r bartneriaeth gydag  S4C yn rhan allweddol o’r strategaeth honno, fel ffordd arall i ymgysylltu â’r pencampwriaethau hyn.”