
3 Rhagfyr 2025
Yn dilyn llwyddiant darllediad dartiau y sianel ym mis Mehefin ac Awst, bydd S4C yn darlledu Pencampwriaeth Dartiau'r Byd WDF o Lakeside am y tro cyntaf.
Mae'r darllediadau byw yn dechrau ar ddydd Mercher 3 Rhagfyr ac yn rhedeg tan ddydd Sul 7 Rhagfyr, ac yn gymysgedd o ddarllediadau ffrydio a llinol ar draws S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a sianel YouTube S4C Chwaraeon.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:
Mae’r gystadleuaeth, sydd yn cael ei drefnu gan Ffederasiwn Dartiau’r Byd (WDF), yn cynnwys chwaraewyr o bob cwr o’r byd yn cystadlu am deitl Pencampwr y Byd. Mae lleoliad Lakeside yn adnabyddus dros y byd ac yn paratoi i gynnal Pencampwriaeth Dartiau’r Byd am y 38ain tro.
Sioned Dafydd fydd yn cyflwyno’r gystadleuaeth ar S4C gyda Gareth Roberts fel y prif sylwebydd. Bydd Rhys ap William hefyd yn sylwebu ar rai gemau gyda’r arbenigwr dartiau Dylan Williams yn cyfrannu drwy’r wythnos. Bydd Rhian O'Sullivan, pencampwr Dartiau Clasur Cymru a Phencampwriaeth Agored yr Iseldiroedd sydd wedi cyrraedd rownd derfynol y menywod yn Lakeside ddwywaith o’r blaen, yn cystadlu nos Iau ac yn ymuno â'r tîm sylwebu ar y diwrnodau lle na fydd hi’n chwarae.
Mae’r tîm sylwebu yn Saesneg dan arweiniad Dan McCarthy, gyda sylwebaeth ychwanegol gan Rhys ap William, pencampwr y Chwe Gwlad Laura Turner, a Phencampwr Dartiau'r Byd yn 2015 Scott Mitchell.
Mi fydd y tîm yn tywys gwylwyr trwy bump o ddiwrnodau llawn cyffro yn nhwrnamaint dartiau llawr gwlad mwya'r byd.
Bydd pedwar teitl Pencampwriaeth y Byd yn cael eu dewis yn Lakeside eleni – y Dynion, Menywod, Ieuenctid a Merched – gyda darllediadau o bob ffeinal wedi’u cynnwys fel rhan o ddarllediad byw estynedig ddydd Sul.
Mae darllediadau Pencampwriaeth Dartiau’r Byd WDF yn cael ei gynhyrchu gan Media Atom i S4C.