Y Wasg

Y Wasg

Smyglwyr Seal Bay: smyglwr o Drefdraeth yn siarad am y tro cyntaf

4 Tachwedd 2025

Chwalwyd tawelwch a heddwch cymuned glan môr yn ystod haf 1983, gan un o archwiliadau mwyaf rhyfeddol yr heddlu yn hanes Cymru. Trefdraeth, Sir Benfro – “tref y nefoedd” yn ôl y bobl leol, oedd y man olaf disgwyliwyd i’w gweld yng nghanol cylch smyglo rhyngwladol.

 

 

Ond yn ystod yr haf crasboeth hwnnw, amharwyd ar yr heddwch pan cafodd siambr danddaearol ryfedd ei darganfod, gyda sïon am smyglwyr rhyngwladol, ac ymchwiliad oedd yn ymestyn o arfordir garw Sir Benfro i’r gwledydd Llychlyn a’r Dwyrain Canol.

 

 

Deugain mlynedd yn ddiweddarach, mae dwy raglen ddogfen yn dychwelyd i’r dirgelwch wnaeth gipio cymuned a drysu’r ymchwilwyr. Bydd Ymgyrch Seal Bay yn ailymweld â’r achos mewn dwy raglen gan ddangos cyfweliadau prin a golygfeydd wedi eu hail greu, gan ddod â digwyddiadau’r haf ryfeddol hwnnw yn ôl yn fyw.

 

 

Wrth ei galon mae llais un nad sydd wedi ei chlywed o’r blaen ar deledu: dyn lleol gafodd ei ddal yn y cynllwyn smyglo, ac sydd yn siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ar y teledu. Actor sydd yn adrodd ei eiriau rhag iddo gael ei adnabod: “Rwy’n fwriadol wedi ei adael ar ôl am flynyddoedd a blynyddoedd,” meddai.

 

 

Mae’r stori’n dechrau ar ddarn o arfordir Sir Benfro ger Trefdraeth, pan ddarganfyddodd pysgotwr lleol, Andy Burgess rywbeth anarferol – tarpolin yn gorchuddio rhan o draeth Pwll Coch sy’n cael ei adnabod yn lleol fel Seal Bay – traeth anghysbell y gellid ei gyrraedd o’r môr yn unig.

 

 

Yn bryderus dyma Burgess yn cysylltu â gwylwyr y glannau. Pan gyrhaeddodd y tîm dan arweiniad swyddog gwylwyr y glannau lleol Essex Havard Snr, ymddangosodd dyn o du ôl i graig ar y traeth. Aeth y dyn at y swyddogion a honni ei fod yn "ymarfer ar gyfer taith i’r Ynys Las (Greenland)”. Ond nid oedd Havard na’i griw yn ei gredu. "Doedd e ddim yn teimlo'n iawn," meddai’n ddiweddarach. Galwad cynnar Burgess wnaeth gychwyn ar un o'r ymchwiliadau mwyaf rhyfeddol yn hanes troseddol Cymru.

 

 

Dyma ddechrau ar ymgais i ddatgymalu gwe o gyfrinachedd a drwgweithredoedd. Sylwodd trigolion lleol ar geir anghyfarwydd - Porsche, Range Rover, hyd yn oed Rolls-Royce gwyn - yn ymddangos ar lonydd gwledig lle roedd tractorau yn fwy cyffredin na cheir crand. Byddai dieithriaid yn talu gyda papurau £50 yn y dafarn leol. Ac yna daeth y darganfyddiad na allai neb ei esbonio: twll tanddaearol cudd ar draeth Cell Hywel. Oddi tano roedd ystafell wedi'i adeiladu ac wedi'i storio â bwyd, offer radio a resin gwydr ffibr, roedd "fel rhywbeth yn syth allan o James Bond," fel y disgrifiodd un gŵr lleol.

 

 

Arweiniodd y Ditectif Brif Arolygydd Derek Davies a'r Ditectif Don Evans o Heddlu Dyfed-Powys yr ymgyrch. O fewn dyddiau llwyddwyd i arestio tri dyn. Cymerwyd y tri - Robin Boswell, Ken Dewar a Sam Spanggaard - i'r ddalfa. Roedd Spanggaard, dinesydd o Ddenmarc oedd yn cael ei adnabod fel "y dyn gyda'r wyneb rwber," eisoes yn enwog ledled Ewrop fel masnachwr cyffuriau oedd wedi llwyddo i ddianc.

 

 

Ond roedd yr heddlu yn wynebu problem ddifrifol: doedd dim cyffuriau. Roedd y contraband tybiedig wedi diflannu, a heb dystiolaeth gorfforol, roedd yr achos mewn perygl o chwalu. Y tu ôl i'r llenni, dechreuodd y ditectifs amau y gallai fod rhywun lleol, rhywun a oedd yn adnabod yr arfordir, yn helpu.

 

 

Mae'r rhaglen ddogfen newydd yn datgelu sut y gwnaeth y darganfyddiad hwnnw arwain swyddogion at ddyn oedd yn byw mewn carafán yng nghefn gwlad Sir Benfro, sy’n cael ei alw yn y gyfres fel "Jim".

 

 

"Fe wnaethon nhw fy nihuno un bore yn fy ngharafán ac ro’n i wedi fy synnu," meddai. "Ro’n i'n meddwl ’mod wedi llwyddo i ddianc o’r holl beth. Do’n i ddim wedi arfer delio â'r heddlu. Fe wnaethon nhw daflu llwyth o gyhuddiadau ata’ i a codi ofn arna’ i."

 

 

Yn ôl y cyn-Dditectif Brif Arolygydd Don Evans, "Dyma'r datganiad gorau i mi ei weld yn ystod fy ngwasanaeth cyfan."

 

 

Dros gyfnod o 36 awr, rhoddodd "Jim" adroddiad rhyfeddol o'i gysylltiad â Boswell a'i griw. Roedd unwaith wedi addasu ceir ar gyfer Boswell ac wedi cael ei dynnu i mewn i'r hyn yr oedd yn ei feddwl oedd yn "rhywbeth anturus." Daeth yr hyn a ddechreuodd fel gwaith mecanyddol yn fuan i fod yn gynllwyn a oedd yn ymestyn o Sir Benfro i Moroco a thu hwnt.

 

 

Yn Ymgyrch Seal Bay mae geiriau Jim yn cael eu hail fyw trwy greu golygfeydd pwerus, a rhain yn cael eu plethu gan ffilmiau archif o’r cyfnod a chyfweliadau heddiw gyda’r ditectifs llwyddodd i gau pen y mwdwl.

 

 

Tra bod rhan gyntaf y rhaglen ddogfen yn archwilio darganfyddiad y siambr danddaearol a'r arestio a ddilynodd, mae'r ail ran yn dilyn yr ymchwiliad ymhell y tu hwnt i orllewin Cymru.

 

 

Trwy gyfweliadau â chyn-dditectifs a newyddiadurwyr, gallwn weld sut y daeth yr enw Robin Boswell i'r amlwg eto, y tro hwn gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, mewn ymchwiliad cyffuriau ar wahân yn Lloegr. Daeth cysylltiad i'r amlwg rhwng Boswell, ei gyn-wraig Susan, a dyn o'r enw Donald Holmes, a oedd wedi bod o dan wyliadwriaeth gan yr Heddlu Metropolitan am amheuaeth o fasnachu cocên.

 

 

Pan gyrhaeddodd swyddogion o Sussex Gymru, dechreuodd darnau jig-sô llawer mwy syrthio i'w lle. "Roedd yn cael ei gyfeirio ato fel mewnforiwr cocên," cofia un ditectif o Loegr. "Dyna pam y dechreuon ni gasglu gwybodaeth amdano yn y lle cyntaf."

 

 

Dyma ddechrau ar ymgyrch gymhleth yn cynnwys nifer o asiantaethau yn Llundain, Hampshire a Sir Benfro. Datgelodd darganfyddiadau’r heddlu ddogfennau codio, ffotograffau a chofnodion ariannol oedd yn awgrymu rhwydwaith smyglo rhyngwladol. Er bod rhai manylion yn parhau i fod yn ddirgelwch, daeth yr ymchwiliad i ben mewn un o dreialon mwyaf dramatig Cymru.

 

 

I bobl Trefdraeth, mae digwyddiadau 1983 yn parhau i adleisio trwy'r cof. "Roedd pawb yn adnabod pawb," cofia Wendy Phillips. "Roedd pawb yn adnabod busnes ei gilydd – a dyna’r ffordd oeddech chi wedi’ch magu."

 

 

Mae'r rhaglen ddogfen yn defnyddio'r atgofion hynny yn effeithiol. Mae’n cyfuno lleisiau trigolion lleol gyda golygfeydd wedi'u hail greu gan gludo’r gwylwyr yn ôl i'r haf unigryw hwnnw. Ffilmiwyd y golygfeydd ar leoliad o amgylch arfordir Sir Benfro, gan ddal harddwch anhygoel y lleoliad - y clogwyni, y traethau bychain, a'r lonydd tawel lle ymddangosai ceir moethus heb rybudd.

 

 

"Mae pobl yn anghofio pa mor fach oedd y cymunedau hyn," meddai Essex Havard Jr. "I gael rhywbeth fel yna yn digwydd yma - roedd e’n anghredadwy."

 

 

Nid stori drosedd yn unig yw Ymgyrch Seal Bay. Mae'n bortread o gymuned a gafodd ei daflu i frwydr o deyrngarwch, ofn a gwir ddiddordeb, ac o ddyn sydd, ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, yn adrodd ei ochr ef o'r stori o'r diwedd.

 

 

"Alla i ddim dweud y byddwn i'n hoffi gwneud hynny eto," meddai Jim wrth fyfyrio ar ei amser gyda'r smyglwyr. "Ond dydw i ddim yn dweud fy mod i'n difaru chwaith, mewn gwirionedd. Roedd rhywfaint ohono yn gyffrous iawn."

 

 

Trwy dystiolaeth brin, adroddiadau uniongyrchol, ac ailadeiladu sinematig, mae'r gyfres ddwy ran yn gwahodd gwylwyr i ailystyried stori a oedd un tro yn cael ei diystyru fel chwedl. Mae'n ein hatgoffa y gall digwyddiadau rhyfeddol ddigwydd ar ein stepen drws.