S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Drama

Ar gael nawr

  • Cyfres newydd: Creisis

    Cyfres newydd: Creisis

    S4C, S4C Clic a BBC iPlayer

    Ar gael nawr ar S4C Clic

    Drama chwe rhan gynhyrfus, newydd sbon.

    Mae Jamie Morris yn gweithio mewn tîm Argyfwng Iechyd Meddwl yng nghymoedd De Cymru; dyn sydd bob amser wedi torri corneli ac wedi mynd un cam ymhellach i'w gleifion. Ond mae Jamie yn gorwynt o anhrefn, yn jyglo un argyfwng ar ôl y llall gartref, yn y gwaith ac ar y strydoedd. Mae ei swydd yn ei gadw ar y rheng flaen, yn gofalu am y bobl fwyaf bregus yn ei gymuned, ond ar ba gost i'w les ei hun?

  • Bariau

    Bariau

    Gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer

    Carchar y Glannau, ac mae carcharor, Barry Hardy, yn codi bag o gyffuriau oddi ar y llawr ar ôl i rywun ei ollwng - penderfyniad sy'n mynd i newid ei fywyd am byth. Er bod ei gymar cell, Peter, yn ceisio ei berswadio i gael gwared â'r cyffuriau, mae gan Barry syniad. Mae digwyddiad gwaedlyd ar y wing yn golygu bod y swyddogion, Elin a Ned, yn poeni am eu swyddi. Ac mae carcharor newydd yn cyrraedd. Dyw Kit Brennan ddim yn wyneb newydd i bawb, ac mae ei ymddangosiad yn peri gofid i fwy nag un.

  • Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Drama gomedi dywyll a chwareus: Pren ar y Bryn

    Ar gael ar S4C, S4C Clic, a BBC iPlayer

    Drama swreal newydd. Mae newid ar y gorwel ym Mhenwyllt ac mae'r werin sy'n byw yno yn gwybod bod y dref roedden nhw'n ei charu unwaith ar fin diflannu o flaen eu llygaid. Neb yn fwy na Margaret a Clive, sy'n cael eu hysgwyd o'u bywydau normal i ganol ddirgelwch mawr.

  • Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Pobol y Cwm - Cyfres 2024

    Creda Diane ei bod wedi dod i wraidd ymddygiad amheus Anita. Nid yw Jinx yn gwybod ble mae e'n sefyll gyda Dani a'r plant.

  • Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Rownd a Rownd - Cyfres 2024

    Mae newid mawr wedi dod dros Sian. Gydag amser i ffwrdd o'i gwaith, mae ganddi hawl i wneud unrhyw beth mae hi'n ddymuno, ond go brin y byddai llawer iawn o bobl yn dewis gwneud yr hyn mae hi'n ei wneud, ond unwaith iddi ddechrau, mae'n anodd iawn rhoi'r ffidil yn y to. Mae Iolo yn dal i deimlo colli Anest ac mae'n ymddangos bod perthynas Mathew a Lea yn parhau i fod yn oeraidd iawn.

  • Achub Mynydd

    Achub Mynydd

    Drama o Sweden yn dilyn bywydau ymatebwyr cyntaf yng nghyrchfan fynydd hyfryd Are: lleoliad sydd mor syfrdanol ag y mae'n beryglus.

  • Astrid

    Astrid

    Drama drosedd Ffrengig gyffrous gan Walter Presents. Mae'r ditectif a thorrwr rheolau, Raphaelle Coste, yn gweithio gyda'r archifydd awtistig Astrid Nielsen i helpu i ddatrys achosion anhydrin.

  • Bariau

    Bariau

    Rhagflas o Bariau - Pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Ionawr 3.

  • Creisis

    Creisis

    Rhagflas o Creisis - pob pennod o'r gyfres newydd hon ar gael o Fawrth 31.

  • Heliwr 3

    Heliwr 3

    Mae Barone yn aros mewn lleoliad annhebygol er mwyn iddo allu treulio amser gyda'i ferch. Mae'r Mafia a'r erlyniad ill dau yn gobeithio torri trwy systemau amddiffyn cymhleth ei gilydd. Ond sut'

  • Rownd a Rownd

    Rownd a Rownd

    S4C Clic

    Cyfres ddrama boblogaidd wedi'i lleoli yn y gogledd.

  • Pobol y Cwm

    Pobol y Cwm

    S4C Clic

    Cyfres sebon wedi'i lleoli mewn pentref o'r enw Cwmderi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?