S4C
Menu

Navigation

Nia's Journey - Llanfihangel Clogwyn Gofan & Aberllydan

Details:

  • Start and End Grid Reference: SR 966 947
  • Duration: 1 hour 50 minutes
  • Distance: 3.9 miles / 6.3 KM
  • Parking: The car park is next to St Michaels and All Angels, Llanfihangel Clogwyn Gofan, Sir Benfro, SA71 5DN.

Description (in Welsh):

Mae'r daith yma'n un gylch, byddwch yn dechrau ac yn gorffen yn yr un lle. O'r maes parcio, trowch i'r chwith a dilynwch y llwybr i'r llyn. Gyda'r llyn o'ch blaen ewch i'r chwith a chroeswch fraich orllewinol y llyn (a). Ar ôl i chi groesi, dilynwch y llwybr i'r dde tan eich bod yn cyrraedd pont arall, a chroeswch dros fraich ganolog y llynnoedd. Dilynwch y llwybr gan gadw'r llyn ar eich ochor dde tan eich bod yn cyrraedd Pont Welltog. Peidiwch â chroesi'r Bont Welltog, ond trowch i'r chwith a dilynwch lwybr y fraich orllewinol i fyny at Bont yr Wyth Bwa (b).

Croeswch y bont a dilynwch drac y Parc Ceirw am tua 500 medr, ac yna trowch i'r dde. Parhewch i ddilyn y llwybr am 500 metr arall, ac fe welwch arwyddion am Goeten y Diafol (c) ar y dde. Parhewch ar y llwybr ar draws Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystagbwll am tua un cilometr, tan eich bod yn cyrraedd Pen y Cyfryw ac yna ymuno â Llwybr yr Arfordir gan droi I'r dde I gyfeiriad Aberllydan

O fan hyn gallwch weld Craig yr Eglwys (ch) am y tro cyntaf yn y môr I gyfeiriad y De.

Wrth edrych allan at Graig yr Eglwys, trowch i'r dde, a dilynwch y llwybr arfordir i lawr at Draeth De Aberllydan (d). O'r traeth, dilynwch y llwybr tuag at y llynnoedd, ac ewch clocwedd o amgylch y llyn. Ar ôl tua 1.3 cilometr o gerdded, byddwch yn cyrraedd troad i'r chwith er mwyn dychwelyd i'r maes parcio.

Points of Interest (in Welsh):

A) Llynnoedd Llanfihangel Clogwyn Gofan

Cyfeirnod Grid: SR 974 947

Crewyd Llynnoedd Llanfihangel Clogwyn Gofan rhwng 1780 a 1860 ac mae'r liliau ar eu gorau ym misoedd Mehefin a Gorffennaf.

B) Pont yr Wyth Bwa

Cyfeirnod Grid: SR 977 956

Adeiladwyd ym 1797 er mwyn cysylltu Cwrt Stagbwll a'r ffarm, gyda'r Parc Ceirw a Chei Stagbwll.

C) Coeten y Diafol

Cyfeirnod Grid: SR 981 950

Mae Coeten y Diafol yn un o dair carreg, yr honer eu bod yn cysylltu ar ddiwrnod penodol o'r flwyddyn lle maent yn dawnsio tan y wawr i dôn a chwaraeir gan y Diafol ar ei ffliwt.

Ch) Craig yr Eglwys

Cyfeirnod Grid: SR 983 937

Enwyd yn Graig yr Eglwys oherwydd pan mae'r llanw yn uchel, mae'r graig yn edrych fel Eglwys yn y môr.

D) Traeth De Aberllydan

Cyfeirnod Grid: SR 978 941

Traeth De Aberllydan yw un o draethau mwyaf Sir Benfro. Mae'n fae llydan, tywodlyd gyda thwyni tywod. Enillwyd Gwobr Glan Môr 2019 a Gwobr Arfordir Gwyrdd 2019.

Can’t find what you’re looking for?