S4C
Menu

Navigation

Rugby

​Viewers can watch all Wales' Six Nations matches live on S4C.

Bydd S4C yn darlledu pob un o bum gêm Cymru ym Mhencampwriaeth 6 Gwlad RBS yn fyw ar y sianel yn yr iaith Gymraeg.

Fe wnaeth y sianel y cyhoeddiad heddiw (Mercher, 20 Ionawr) ar ôl sicrhau cytundeb gyda dau brif ddarlledwr Pencampwriaeth RBS y 6 Gwlad, BBC ac ITV.

S4C fydd yr unig sianel yn y DU fydd yn dangos pob un o bum gêm Cymru yn y gystadleuaeth yn fyw.

Bydd gemau Cymru yn cael eu cynhyrchu gan dîm BBC Cymru sydd y tu ôl i'r rhaglen boblogaidd Clwb Rygbi Rhyngwladol.

Bydd y cyfan yn dechrau gyda gêm Cymru yn erbyn Iwerddon ar ddydd Sul 7 Chwefror, gyda'r darllediadau byw yn parhau tan gêm derfynol Cymru yn erbyn Yr Eidal ddydd Sadwrn 19 Mawrth.

Bydd gwylwyr yn gallu gwylio'r gemau ar S4C ar ddewis eang o lwyfannau ac ar-lein ledled y DU.

Bydd tîm cyflwyno Clwb Rygbi Rhyngwladol yn rhoi sylw cynhwysfawr ar y diwrnod, gan gynnwys darllediad llawn o'r gemau, adroddiadau a chyfweliadau byw a dadansoddi arbenigol.

Y prif gyflwynydd fydd Gareth Roberts a bydd y tîm yn cynnwys chwaraewyr rhyngwladol fel Dwayne Peel, Dafydd Jones, Deiniol Jones ac Andrew Coombs, gyda Gareth Charles a chyn gapten Cymru, Gwyn Jones yn y blwch sylwebu.

Bydd S4C hefyd yn darlledu dwy o gemau Cymru Dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw o Barc Eirias, Bae Colwyn. Y gêm gyntaf fydd Cymru Dan 20 v Yr Alban Dan 20 ar 12 Chwefror ac yna Cymru Dan 20 v Ffrainc Dan 20 ar 27 Chwefror. BBC Cymru fydd yn cynhyrchu'r rhaglenni.

Meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys, "Mae'r Bencampwriaeth RBS 6 Gwlad yn un o'r cystadlaethau chwaraeon mwyaf yn y calendr blynyddol ac rydym yn falch iawn ein bod yn gallu rhoi sylw i gemau Cymru yn Gymraeg. Hoffwn ddiolch i'r ddau ddarlledwr BBC ac ITV am helpu i wneud y cyfan yn bosibl, gan sicrhau bod ein gwylwyr yn cael gwasanaeth o'r ansawdd uchaf posibl wrth fwynhau digwyddiadau cenedlaethol mor bwysig."

Meddai Prif Weithredwr y Chwe Gwlad John Feehan, "Rydym yn hynod falch bod y bencampwriaeth rygbi fwyaf ar gael yn fyw yn yr iaith Gymraeg ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r BBC, ITV ac S4C i ddarparu ein cystadleuaeth i'r gynulleidfa ehanga' posibl."

Dywedodd Siân Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni a Gwasanaethau Cymraeg BBC Cymru, "Rydym yn hynod o falch y gall BBC Cymru barhau i ddarparu darllediadau byw o holl gemau Cymru ar gyfer S4C gyda'r cytundeb newydd yma, ac mae ein timau cynhyrchu profiadol yn edrych ymlaen at gynnig darllediadau Cymraeg o'r safon uchaf i gynulleidfaoedd ledled Cymru."

Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Gareth Davies, "Rydym yn ffodus iawn bod rygbi yng Nghymru yn cael sylw mor gynhwysfawr gan ein holl bartneriaid darlledu. Mae S4C yn arbennig o gefnogol i bob lefel o rygbi yng Nghymru, o ysgolion a cholegau i Uwch Gynghrair y Principality a rygbi rhyngwladol. Mae'n newyddion gwych bad holl ymgyrch Cymru yn yr RBS 6 Gwlad ar gael drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg."

Mae S4C ar gael ar Sky 104, Freeview 4, Virgin TV 166 a Freesat 104 yng Nghymru.

Yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae S4C ar gael ar Sky 134, Freesat 120 a Virgin TV 166.

Gallwch hefyd wylio ar-lein ac ar alw ar s4c.cymru ledled y Deyrnas Unedig, yn ogystal ag ar tvcatchup.com, TVPlayer.com, YouView a BBC iPlayer.

Can’t find what you’re looking for?