Y cyn-chwaraewr rygbi, Nathan Brew, yn datgelu am y tro cyntaf hanes trawmatig lofruddiaeth ei frawd, Matthew Thomas, mewn ymosodiad echrydus un ergyd yng Nghastell-nedd. Dros y tair blynedd diwethaf, mae ymosodiadau un ergyd wedi bod yn gyfrifol am 1 o bob 10 llofruddiaeth a dynladdiad yng Nghymru.
Mae gwaith dur Tata yn ymgynghori ar golli 2,400 o swyddi yn y gwaith dur ym Mhort Talbot erbyn diwedd mis Mawrth eleni. Yn y rhaglen hon fe fyddwn ni yn dod i wybod mwy am y gymuned trwy lygaid dau aelod. Mae'r dref a'r ardal yn ddibynnol ar y gwaith dur am gyflogaeth, ac mewn rhyw fodd neu gilydd, mae pob un agwedd bron ar y gymuned â chysylltiad gyda'r gwaith dur. A oes yna obaith i'r gymuned ar ôl colli'r nifer hyn o swyddi'