Dydd Sul 13 Medi 2015 – y dydd mae cyfres Y Gwyll/Hinterland yn dychwelyd i sgrin S4C.

Bydd yr ail gyfres o'r ddrama dditectif afaelgar, gyda'r actor Richard Harrington yn portreadu DCI Tom Mathias yn y brif ran, yn cael ei darlledu gyntaf yn y Gymraeg ar S4C.

Mae'r ail gyfres yn parhau gyda phedwar achos newydd sbon dros gyfnod o wyth pennod awr o hyd.

Bydd y ddrama yn cael ei darlledu yn y slot poblogaidd am 9.00 nos Sul, gydag isdeitlau Saesneg ar gael.

Darlledwyd rhifyn arbennig o Y Gwyll ar Ddydd Calan eleni, a gosododd hyn awyrgylch ar gyfer yr ail gyfres, gyda DCI Mathias mewn cythrwfl emosiynol wrth i'w orffennol tywyll ddod nôl i’w boeni.

Nawr, mae ymddangosiad annisgwyl ei wraig Meg, sy’n cael ei phortreadu gan yr enillydd BAFTA Anamaria Marinca, yn siŵr o gynyddu’r tensiwn.