
Beth fyddech chi yn ei wneud pe bai un o gogyddion mwya'r byd, Michel Roux Jr, am eich anfon i hyfforddi mewn bwyty dwy seren Michelin yn Ffrainc? Mynd wrth gwrs! Dyna yn union wnaeth Bryn Williams nôl yn 2001, a lle y bu'n mwynhau byw am dymor yn Ffrainc, a gweithio gyda'i gariad cyntaf - sef coginio Ffrengig clasurol.