Podlediad: Clic o'r Archif
Lawrlwythwch nawr
Dewch i'r Samporiwm yn y bennod yma o Clic O'r Archif. Bydd Caryl Parry Jones yn ymuno â Miriam Isaac ac Iestyn Arwel ac yn trafod y clasur Nadoligaidd: Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig. Cyfle i glywed o lygad y ffynnon am gynnwys annisgwyl diwedd y ffilm, y ffrog roedd pawb yn ei gasáu a chyfrinach llais peraidd un o'r actorion. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref a Caryl Parry Jones yn rhegu!