I ddathlu ei phen-blwydd yn 30 oed, mae Hana Medi am adeiladu a rasio mini! Yn y bennod yma ma Hana'n dechrau rhoi'r paneli at ei gilydd, meistroli'r grefft o 'weldo' ac yn adeiladu 'roll-cage'. Yn ogystal ag ymweld â siop i brynu siwt rasio!
Cyfres llawn cyffro pêl-droed y pyramid Cymreig. Uchafbwyntiau o'r Cymru Premier JD wrth i'r Drenewydd herio Aberystwyth yn y Chwech Isaf, a daw tymor y Brif Adran i ben gyda Caerdydd yn croesawu Llansawel.
Yn 18 oed, mae Ioan Jones o Lanfairpwll yn wynebu her enfawr: cyrraedd Base Camp Everest. Dilynwn ei siwrne feddyliol a chorfforol a'i fwriad o ysbrydoli eraill bod gobaith wedi galar. Rhybudd: trafod hunanladdiad.