2 Gorffennaf 2025
Bydd bws arbennig cefnogwyr Cymru yn cyrraedd Lucerne yn y Swistir, ddydd Iau 4 Gorffennaf cyn gêm gyntaf erioed Cymru ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025. Yn ymuno â’r cefnogwyr bydd y ddarlledwraig a'r cerddor Cerys Matthews, a fydd yn cyflwyno digwyddiad dathlu arbennig wedi ei gynnal gan S4C, gan ddod â balchder Cymru i galon Ewrop.
4 Gorffennaf 2025
Bydd Sgorio yn darlledu gemau rhagbrofol Ewropeaidd gan ddangos bob un o’r clybiau sy’n cynrychioli Cymru y tymor hwn.
3 Gorffennaf 2025
Mae hi’n amser am elltydd, am lycra ac am chwys; mae hi’n amser am Tour de France 2025.
Bydd holl gymalau’r ras fyd-enwog yn cael eu dangos yn fyw ar S4C am 2pm bob dydd, gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos. Gwyliwch y cyfan ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer a YouTube S4C.
3 Gorffennaf 2025
Bydd ffilm opera Gymraeg sy’n cyfuno genres yn cael ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin, sydd bellach yn ei 78fed blwyddyn, ar 18 Awst, cyn iddi gael ei dangos mewn sinemâu yn yr hydref.
27 Mehefin 2025
Bydd tîm rygbi dynion Cymru yn wynebu Japan fel rhan o Gemau Rhyngwladol Haf 2025.
Mae BBC Cymru a S4C wedi cyhoeddi cytundeb ddarlledu newydd i ddangos dwy gêm Brawf tîm y dynion yn erbyn Japan yn fyw ac ar deledu am ddim ym mis Gorffennaf eleni.
27 Mehefin 2025
Mae S4C am y tro cyntaf wedi'i dewis i gynnal Rownd Feirniadu Cyn-Derfynol ar gyfer cystadleuaeth yr Emmy® Rhyngwladol 2025 yn swyddogol, digwyddiad nodedig sy'n cydnabod rhagoriaeth mewn rhaglenni teledu byd-eang.
26 Mehefin 2025
Mewn cyfres ddwy ran arbennig ar S4C cawn gyfle i groesi trothwy labordy chwedlonol CERN yn Genefa gan olrhain hanes ei sefydlu, y gwaith chwyldroadol sy’n digwydd yno, a’r gwyddonwyr o Gymru sydd wrth galon y cyfan.
17 Mehefin 2025
Mae S4C wedi cyhoeddi arlwy i gyfleu'r holl fwrlwm wrth i dîm Cymru gystadlu ym Mhencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025 yn Y Swistir fis Gorffennaf, ochr yn ochr â darlledu pob gêm Cymru yn y bencampwriaeth yn fyw ar S4C.
16 Mehefin 2025
Mae hyn yn cynnwys partneriaeth nodedig gyda TG4 i ddarlledu'r gêm agoriadol yn fyw ac am ddim.
13 Mehefin 2025
Dymuna S4C estyn cydymdeimlad gyda theulu Richard Longstaff o Ddinbych a fu farw ddoe, 12fed Mehefin.