Swyddi

Swyddi

Dewch i wneud gwahaniaeth gyda ni!

Mae S4C yn fwy na sianel deledu. Rydyn ni'n gartref i straeon, creadigrwydd a syniadau sy'n adlewyrchu Cymru ac yn mynd â'r Gymraeg i'r byd.

Rydyn ni'n dîm o bobl angerddol sy'n gweithio gyda'n gilydd i greu dyfodol cyffrous i S4C. Rydyn ni'n chwilio am bobl sy'n barod i ddod â syniadau newydd, herio'r arferol a gwneud gwahaniaeth.

Beth bynnag fo'ch cefndir neu'ch profiad, os ydych chi'n rhannu ein huchelgais, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

Dewch i ymuno â ni!

Gweithio yn S4C

Pecyn Gwybodaeth

  • Pecyn Gwybodaeth Ymgeisydd S4C

    Pecyn Gwybodaeth Ymgeisydd S4C

    Dysgwch fwy am weithio yn S4C, ein diwylliant, ein gwerthoedd a'r buddion rydyn ni'n eu cynnig i'n staff.

Cynllun Cyfweliad Gwarantedig

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithlu mwy amrywiol a chynhwysol. Rydyn ni'n cynnig cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr anabl a/neu ymgeiswyr o gymunedau'r Mwyafrif Byd-eang sy'n bodloni meini prawf hanfodol y swydd. 

Rydym yn cydnabod bod unigolion talentog yn gallu wynebu rhwystrau wrth geisio cael mynediad at gyfleoedd yn y diwydiannau darlledu a chreadigol, ac o ganlyniad nad ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn ein gweithlu. Drwy’r cynllun hwn, ein nod yw helpu i gael gwared ar rai o’r rhwystrau hynny a sicrhau bod ein prosesau recriwtio yn deg, yn hygyrch ac yn gynhwysol.

Bydd ymgeiswyr sy’n nodi eu bod o gefndir y Mwyafrif Byd-eang a/neu eu bod yn anabl, ac sy’n bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, yn cael cynnig cyfweliad gwarantedig.

Er mwyn cael eich ystyried o dan y cynllun hwn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ticio’r blwch perthnasol ar y ffurflen gais.

Bydd pob ymgeisydd yn cael ei asesu yn erbyn yr un meini prawf yn ystod y broses gyfweld a dethol, a bydd penodiadau’n cael eu gwneud ar sail teilyngdod.

Ein Cyfleoedd Presennol

Yn barod am eich her nesaf? Edrychwch ar ein swyddi gwag isod a dewch i fod yn rhan o ddyfodol S4C.

  • Uwch Beiriannydd Platfform Cwmwl

    Dyddiad Cau: 27 Tachwedd 2026

    Yn S4C, rydym yn angerddol am greu amgylchedd gwaith cadarnhaol, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:

    Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.

    Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'n tîm wrth i ni barhau i feithrin diwylliant o waith sy'n rhoi pobl wrth galon y sefydliad ac ar adeg dyngedfennol yn hanes S4C wrth i ni weithredu ein strategaeth newydd, S4C - Mwy na Sianel Teledu, ac wrth i ni weithredu strategaeth 2030. Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus, dibynadwy, gweithgar a brwdfrydig sy'n byw yn ôl ein gwerthoedd craidd i ymuno â'n Tîm.